Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn croesawu rhagor o gymorth drwy'r Taliad Tanwydd dros y Gaeaf

Yn fuan iawn, bydd mwy o aelwydydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu hawlio taliad untro gwerth £200 i helpu i dalu biliau ynni yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai'r cymorth yn cael ei ymestyn i gyrraedd mwy o bobl gymwys.

Mae oddeutu 166,000 aelwyd sy'n derbyn credyd cynhwysol, budd-dal etifeddol sy’n dibynnu ar brawf modd a chredydau treth gwaith eisoes wedi manteisio ar y Taliad Tanwydd dros y Gaeaf, sydd werth £200. Drwy ymestyn y cynllun cymorth tanwydd, bydd bron i 200,000 yn rhagor o aelwydydd sy'n derbyn credydau treth plant, credydau pensiwn, budd-daliadau anabledd, lwfans gofalwyr a budd-daliadau cyfrannol yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Mae'r cynllun yn cael ei ymestyn mewn ymateb i'r effaith mae'r argyfwng costau byw presennol yn ei gael ar aelwydydd incwm isel, ac i alluogi mwy o aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau i fod yn gymwys ar ei gyfer.

Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Gwyddom fod llawer o deuluoedd yn bryderus ac yn poeni am fisoedd y gaeaf oherwydd cynnydd mewn biliau ynni. Felly, rydym yn gobeithio fod y cyhoeddiad hwn yn rhoi ychydig o gysur iddyn nhw, cyn i'r gaeaf gyrraedd.”

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad a wnaed yn gynharach eleni a nododd y byddai taliad y Cynllun Cymorth Tanwydd dros y Gaeaf 2021/22 yn cael ei ddyblu i £200, wrth i'r argyfwng costau byw ddwysau, ac i gefnogi aelwydydd cymwys gyda biliau ynni mwy costus.

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro gwerth £200 gan eu hawdurdodau lleol i'w ddefnyddio ar gyfer talu biliau tanwydd. Bydd y taliad ar gael i bob cwsmer ynni cymwys, boed ydynt yn talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol, wedi’u talu bob chwarter neu i’r rhai nad ydynt ar y grid tanwydd.

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd unigolion sy'n gymwys ar gyfer y cymorth hwn yn gallu gwneud cais am y grant o 26 Medi 2022 ymlaen, pan fydd ceisiadau'n agor, a gellir disgwyl y taliad cyntaf ym mis Hydref 2022.

Rydym yn croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru'n ymestyn y cynllun Taliad Tanwydd dros y Gaeaf er mwyn cynnwys mwy o bobl. Gyda chostau tanwydd ac ynni cynyddol ynghyd ag arwyddion rhybuddio chwyddiant yn ein hwynebu, bydd y taliad untro hwn yn dod â rhyddhad mawr ei angen i drigolion sydd ar incwm isel, a bydd yn helpu aelwydydd gyda'u costau byw yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Aelod Cabinet dros Adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Bydd manylion pellach ynghylch sut i wneud cais am y cynllun gan Lywodraeth Cymru ar gael yn fuan.

Chwilio A i Y