Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn croesawu cadarnhad o gyllid gwerth £2.65m ar gyfer gwaith insiwleiddio waliau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu sylwadau gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, sy'n cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ei achos busnes i fynd i'r afael â gwaith insiwleiddio waliau diffygiol mewn cartrefi yng Nghaerau.

Gan gyfeirio at yr angen i barhau i ddysgu o raglenni tai ddoe a heddiw wrth gyhoeddi cynlluniau newydd i wella effeithiolrwydd ynni cartrefi Cymru, dywedodd y gweinidog: "Mae cynlluniau niferus ar gyfer Cymru a'r DU wedi darparu manteision gwirioneddol i gartrefi bregus.

"Fodd bynnag, rydym yn delio â gwaddol rhai o'r cynlluniau a ddyluniwyd ac a gyflawnwyd i safon isel ddegawd yn ôl, ac fe gymeradwyais gynlluniau gwerth £4.5m i gynghorau bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili yn ddiweddar i drwsio dros 150 o gartrefi a oedd wedi cael cam yn sgil cynlluniau blaenorol Llywodraeth y DU.

"Mae'n bwysig ein bod yn dysgu o'r camgymeriadau hyn er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaus."

Yn 2012-13, darparwyd gwaith insiwleiddio waliau mewn 104 o gartrefi yng Nghaerau fel rhan o'r Rhaglen Arbed Ynni Cymunedol cenedlaethol a mentrau Arbed. Gan mai methiant fu'r gwaith hwnnw, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio ar wella a datrys y broblem yn y tymor hir.

Er mai dim ond ar gyfer 25 eiddo oedd yn rhan o'r cynlluniau y gwnaeth y cyngor weinyddu'r cyllid yn wreiddiol, mae'r gwaith adfer newydd yn bwriadu mynd i'r afael â'r 104 eiddo er mwyn sicrhau y bydd cartrefi yn elwa o'r fenter fel y bwriadwyd yn wreiddiol.

Mae hyn yn newyddion gwych ac rwyf wrth fy modd o glywed bod ein hachos busnes ar gyfer gwaith adfer wedi bod yn llwyddiannus. Mae penderfyniad y gweinidog yn golygu y bydd £2.65m o gyllid ar gael yn fuan i gynorthwyo'r gwaith ym mhob eiddo yr effeithiwyd arno yng Nghaerau ynghyd â £850,000 pellach y mae'r cyngor eisoes wedi'i addo i'r cynllun.

Gan ein bod eisiau i'r gwaith adfer ddarparu manteision tymor hir, cadarnhaol a pharhol i ddeiliaid y 104 o dai yr effeithiwyd arnynt, bydd hon yn broses fanwl a chynhwysfawr fydd yn gofyn am arolygon technegol a gwaith rheoli rhaglen gofalus dros gyfnod o ddwy flynedd neu fwy.

Hoffwn ddiolch i'r gweinidog, Julie James, a Llywodraeth Cymru am eu cymorth gyda'r prosiect, ac rwy'n edrych ymlaen at dderbyn neges swyddogol ynghylch llwyddiant ein hachos busnes.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David:

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick: "Mae hyn yn newyddion gwych nid yn unig i drigolion y 25 eiddo lle'r oedd y cyngor wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwaith insiwleiddio waliau'n wreiddiol, ond i'r 104 o dai a gymerodd ran yn y cynlluniau Rhaglen Arbed Ynni Cymunedol ac Arbed.

"Yn dilyn methiant llawer o'r gwaith hwnnw, cymerwyd camau i atal y fath sefyllfa rhag digwydd eto, a gwnaed addewid cyhoeddus i sicrhau bod y gwaith anfoddhaol yn cael ei gywiro.

"Mae penderfyniad heddiw yn golygu y byddwn yn gallu cyflawni'r addewid hwnnw, ac fe fyddwn innau hefyd yn hoffi diolch i Lywodraeth Cymru am sicrhau'r cyllid.

"Rwy'n edrych ymlaen at gael cadarnhad o sut fydd y gwaith adfer yn mynd rhagddo unwaith y bydd neges swyddogol am y cyllid wedi dod i law."

Chwilio A i Y