Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i ystyried mabwysiadu

Nododd 16 Hydref ddechrau Wythnos Mabwysiadu Cenedlaethol gyda chyfres o ddigwyddiadau, ymgyrchoedd, cynnwys a sgyrsiau cyffrous wedi eu cynllunio.

Dechreuodd Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin (GMBG) yw wythnos yn dathlu ei dull cydweithredol i sicrhau'r dyfodol gorau bosibl i blant lleol gyda theithiau cerdded ar draws yr awdurdod.

Dechreuodd y teithiau cerdded a gynhaliwyd ddydd Llun 16 Hydref ym Mhorthcawl cyn symud i Aberafan a gorffen ym Mae Abertawe.

Ledled Cymru mae asiantaethau a staff yn cydweithio i greu'r deilliannau gorau bosibl i deuluoedd - mae'r daith gerdded hon sy'n cwmpasu ardal wasanaeth GMBG gyfan yn adlewyrchu a dathlu'r dull ar y cyd hwnnw.

Bydd GMBG hefyd yn trefnu gwaith codi ymwybyddiaeth gyda theuluoedd mewn ysgolion ynghylch mabwysiadu, gan edrych ar sut y bu i un sy'n mabwysiadu ac aelod o dîm weld ei chyngyflogwr, Cyngor Abertawe, yn hynod o gefnogol yn ystod mabwysiadu sy'n ddigwyddiad sy'n newid bywyd, ynghyd â chynnal y 'Gwobrau Stori Taith Bywyd'.

Fe welwn yr ymgyrch Choose Family yn dychwelyd, yn genedlaethol, fydd yn cynnwys mabwysiadwyr ledled Cymru yn archwilio'r problemau presennol ynghylch thema megis, cyswllt, mabwysiadu plant gydag anghenion cymhleth a chwilio am gymorth.

Mae llawer o blant a phobl ifanc, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, yn aros am deulu parhaol ar hyn o bryd.

Mae'r plant hyn yn aml yn dod o amgylchiadau anodd, ac fel awdurdod lleol, rydym eisiau i'r plant hyn fyw bywydau bodlon, llawn mewn cartrefi sefydlog, llawn cariad.

Dyna pam ein bod eisiau cynorthwyo ein gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth, addysgu ac annog pobl i ystyried mabwysiadu a'r cyfan sydd ynghlwm ag o.

Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie

Hoffai GMBG ddiolch i bawb am eu cymorth yn ystod yr wythnos, yn cynnwys cynghorwyr, cyfarwyddwyr, penaethiaid gwasanaethau, a staff y cyngor am ymuno â nhw ar eu teithiau cerdded ac i'r awdurdodau lleol am oleuo eu hadeiladu'n biws i'w helpu i ddathlu!

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.westernbayadoption.org

Chwilio A i Y