Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn llofnodi’r Siarter Rhianta Corfforaethol

Ar ôl cael cymeradwyaeth gan ei Bwyllgor Cabinet ar Rianta Corfforaethol, mae’r Cyngor wedi llofnodi Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru. Trwy wneud hyn, addewir rhoi cymorth parhaus i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal trwy’r fwrdeistref sirol, gan sicrhau y cânt yr un cyfle i gyflawni eu potensial â’u cyfoedion – ymrwymiad sy’n cyd-fynd â Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd yr awdurdod lleol, a lansiwyd ym mis Ebrill 2023.

Cytundeb ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n ymgysylltu’n rheolaidd â phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal – dyna yw’r Siarter yn ei hanfod. Ac mae Bwrdd Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus i’w holl aelod-asiantaethau ymrwymo i’r Siarter erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

Gan ymuno ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Choleg Penybont sydd eisoes wedi llofnodi’r addewid, mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddefnyddio’r egwyddorion canllaw a gynigir gan y Siarter i ddiogelu a chefnogi hawliau’r plant a’r bobl ifanc sydd yn ei ofal.

Rydym yn llwyr gefnogi ein hymrwymiad i’r Siarter, sy’n cynnig pwynt cyfeirio ar gyfer sefydliadau fel ein sefydliad ni mewn perthynas â chael dealltwriaeth a disgwyliad cyffredin ar gyfer rhianta pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.

Fel rhiant corfforaethol, byddwn yn sicrhau y caiff ein holl ymdrechion er budd ein pobl ifanc eu hategu gan ystyriaethau fel sicrhau cydraddoldeb, grymuso ac amddiffyn, fel y nodir yn y Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd a lansiwyd y llynedd.

Mae dull y cyngor cyfan, yn ogystal â’n cydberthnasau ag amryfal asiantaethau, yn hollbwysig i effeithiolrwydd ein rhianta corfforaethol yn y fwrdeistref sirol. Mae hi’n hollbwysig inni weithio gyda’n gilydd er mwyn cyflawni’r nodau a’r dyheadau cyffredin hyn ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc, a bydd eu lles bob amser yn flaenoriaeth inni.

Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie

Chwilio A i Y