Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu ymrwymiad cynllun pensiwn i’r amgylchedd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch bod y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i leihau a thynnu buddsoddiadau mewn daliadau tanwydd ffosil.

Gweinyddir y cynllun gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ond mae hefyd yn cynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr. Golyga hyn bod darparwr pensiwn swyddogol y cyngor yn ymrwymedig i leihau amlygiad carbon ar draws y gronfa.

Fel rhan o drefniadau’r gronfa, mae strategaeth fuddsoddi ar waith sy’n cwmpasu egwyddorion buddsoddi cyfrifol a buddsoddi carbon.

Mae’r prif bwyntiau o fewn y strategaeth fel a ganlyn:

  • Mae’r gronfa’n cydnabod y goblygiadau buddsoddi o reoli newid yn yr hinsawdd ac allyriadau carbon. Mae’n gwbl ymwybodol bod newid yn yr hinsawdd yn un o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â’n buddsoddiadau cynllun pensiwn.
  • Mae’r gronfa’n credu y dylai ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu gael eu hystyried yn barhaus a’u bod yn rhan annatod o gyfrifoldebau’r Gronfa fel buddsoddwr cynaliadwy hirdymor. 
  • Mae’r gronfa wedi ymrwymo i drosglwyddiad carbon trefnus ac i’r broses o leihau amlygiad tanwydd ffosil.
  • Mae holl reolwyr buddsoddi’r gronfa wedi cofrestru ag Egwyddorion Buddsoddi Cyfrifol y Cenhedloedd Unedig sy’n annog perchnogion/rheolwyr asedau i ymgorffori materion amgylcheddol i mewn i ddadansoddi a gwneud penderfyniadau buddsoddi.

Cefnogir a chroesewir hyn gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ei bod yn hanfodol ein bod yn cymryd bob cam posib i warchod yr amgylchedd a chefnogi targed Carbon Sero Net 2030 y cyngor.

Mae hefyd yn dda gweld bod y strategaeth eisoes yn cael effaith gadarnhaol ac yn caniatáu monitro rheolaidd er mwyn sicrhau bod cynnydd yn parhau i leihau daliadau tanwydd ffosil mewn ffordd drefnus.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Yng nghyfarfod Cyngor Rhondda Cynon Taf ym mis Gorffennaf, dywedodd ei Arweinydd, y Cynghorydd Andrew Morgan: “Mae’r gronfa bensiwn wastad wedi buddsoddi ei hasedau mewn ffordd gyfrifol ac yn ymgysylltu â chwmnïau fel rhan o sicrhau trosglwyddiad carbon trefnus.  Mae hyn eisoes wedi arwain at ostyngiad parhaus yn ein daliadau tanwydd ffosil a sefydlu egwyddorion dadfuddsoddi. 

“Hoffwn nawr gyhoeddi fy mod, fel rhan o’n nodau newid yn yr hinsawdd, wedi gofyn i swyddogion weithio gyda’r Pwyllgor Pensiwn i adolygu opsiynau ar gyfer gosod targed er mwyn dadfuddsoddi ein buddsoddiadau cronfa bensiwn gwargedol i ffwrdd oddi wrth echdynnu tanwydd ffosil.”

Chwilio A i Y