Cynghorwyr yn dod ynghyd i ddangos cefnogaeth yn Pride Cymru 2022
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 31 Awst 2022
Ymunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ag awdurdodau lleol cyfagos yn ne Cymru i ddangos cefnogaeth i'r gymuned LGBT+ a chynorthwyo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Cymerodd yr awdurdod ran yn y digwyddiad Pride Cymru, fel rhan o'r rhwydwaith 'Cynghorau Balch', sydd wedi ei ddylunio i alluogi cynghorau ledled y rhanbarth i gydweithio wrth hyrwyddo gwasanaethau a chynnig eu cefnogaeth.
Teithiodd cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad gyda chydweithwyr o Rondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Powys, Casnewydd, Abertawe, Caerffili, Torfaen a Blaenau Gwent.
Ymunodd staff, cynghorwyr a grwpiau cymunedol cysylltiedig â channoedd o bobl a orymdeithiodd gyda'i gilydd drwy strydoedd Caerdydd i ddangos ymrwymiad a chefnogaeth pob cyngor i'r gymuned LGBT+ yng Nghymru.
Yn ogystal â chario baneri Pride, roeddent hefyd yn bresennol yn y stondin Cyngor Balch i annog ymwelwyr i drafod sut y gall cynghorau wella materion megis darparu gwasanaeth, mynediad a chynhwysiad ac osgoi gwahaniaethu yn erbyn trigolion a gweithwyr.
Rydym yn falch iawn o weld y digwyddiad hwn yn dychwelyd i Gaerdydd eleni. Mae bod yn rhan o'r rhwydwaith Cynghorau Balch yn galluogi awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth i ddod ynghyd a dangos eu hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Fel awdurdod lleol, rydym yn darparu gwasanaethau i bawb, waeth beth fo'u hil, rhywedd, oed, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu gredoau crefyddol, ac roedd yn wych dychwelyd i'r ŵyl Pride Cymru i ddangos ein cefnogaeth ac annog pobl i barchu a gwerthfawrogi'r amrywiaeth sy'n bodoli yn ein cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, aelod cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Lesiant a Chenedlaethau'r dyfodol: