Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynghorion gorau i gadw’n ddiogel wrth i’r tymheredd godi

Gyda disgwyl i’r tymheredd gyrraedd mor uchel â chanol y tridegau a rhybudd tywydd oren mewn grym ar gyfer y rhan helaeth o Gymru rhwng dydd Sul 17 a dydd Mawrth 19 Gorffennaf, mae preswylwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i gymryd gofal ychwanegol yn ystod y dyddiau nesaf. 

Gall cyfnodau parhaus o dywydd poeth iawn achosi diffyg hylif, gorgynhesu, gorludded gwres a thrawiad gwres, yn enwedig ymhlith plant a phobl sy’n agored i niwed, ac mae arbenigwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyngor ynghylch sut gall pobl leol ofalu amdanynt eu hunain, eu teuluoedd, cymdogion a chyfeillion:

  • Arhoswch yn y cysgod, yn enwedig rhwng 11am a 3pm.
  • Gwisgwch het a dillad llac, gyda llewys hir os yn bosib.
  • Gwisgwch eli haul gyda ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) uchel.
  • Cadwch aer cynnes allan trwy gau’r ffenestri a’r bleinds yn ystod y dydd.
  • Yfwch ddigonedd o ddŵr, ac osgoi alcohol.
  • Gall cawod oer helpu i’ch atal rhag mynd yn rhy boeth.
  • Cadwch lygaid ar eich teulu, cyfeillion a chymdogion, yn enwedig os ydynt yn agored i niwed, mewn oed neu’n byw ar eu pen eu hunain.
  • Ystyriwch newid eich arferion dros dro i osgoi gwneud gweithgareddau llafurus pan mae’r haul ar ei boethaf.

Mae preswylwyr lleol hefyd yn cael eu hannog i osgoi nofio mewn afonydd, llynnoedd a chyrff dŵr eraill gan fod yna berygl o gramp neu sioc dŵr oer yn ogystal â gwrthrychau anweledig o dan y dŵr.

Mae pobl ifanc yn enwedig yn cael eu hatgoffa o beryglon nofio mewn ardaloedd megis y gwagle sydd wedi’i lenwi â dŵr ym Mharc Slip, Bryn Cynffig.

Yn ystod y tywydd poeth eithafol, mae hi hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol o symptomau trawiad gwres. Mae trawiad gwres yn cael ei ystyried yn argyfwng meddygol a dylech ffonio 999 os ydych yn profi symptomau megis:

  • Dal i deimlo’n sâl ar ôl gorffwys am 30 munud mewn lle oer ac yfed digon o ddŵr.
  • Dim yn chwysu, hyd yn oed pan fyddwch yn teimlo’n rhy boeth.
  • Tymheredd o 40c neu uwch
  • Anadlu’n gyflym neu’n fyr eich gwynt.
  • Teimlo’n ddryslyd.
  • Ffit neu drawiad.
  • Mynd yn anymwybodol neu’n ddiymateb.

Mae arwyddion eraill i gadw golwg amdanynt yn cynnwys teimlo’n benysgafn, yn wan neu’n bryderus, neu deimlo’n hynod sychedig a gyda chur pen. Os ydych yn teimlo fel hyn, dylech symud i le oer cyn gynted â phosib ac yfed dŵr neu sudd ffrwythau i ddadhydradu.

Gall crampiau gwres fod yn arbennig o boenus. Os byddwch yn cael gwingiadau yng nghyhyrau eich coesau, breichiau neu fol ar ôl gweithgarwch corfforol yn y gwres, ewch i orffwys yn syth mewn lle oer a dadhydradu gyda dŵr neu sudd ffrwythau.

Os nad yw’r crampiau gwres yn gwella ar ôl awr, ewch i gael sylw meddygol, ac os yw’r symptomau’n parhau, cysylltwch â’ch meddyg teulu.

Os ydych yn poeni am unrhyw o’r symptomau sydd gennych chi neu rywun rydych yn adnabod, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ewch i wefan GIG 111 Cymru i wirio eich symptomau.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch delio â’r gwres eithafol ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Chwilio A i Y