Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymunedau lleol i gael budd o gynllun grantiau'r cyngor

Mae disgwyl i fwy o gymunedau lleol Pen-y-bont ar Ogwr elwa o gynllun Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned y cyngor yn dilyn y rownd ddiweddaraf o geisiadau. 

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, mae prosiectau yn Coety, Bracla a Chwm Garw i gyd wedi derbyn arian i gefnogi ystod o fentrau sy'n alinio gyda blaenoriaethau corfforaethol y cyngor, agenda Sero-Net 2030 a'r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol. 

Mae'r ceisiadau llwyddiannus yn cynnwys gosod arwyneb newydd ym Mharc Chwarae Coety, cynllun plannu coed trefol o amgylch Bracla ac i ailffocysu Parc Calon Lan fel Hwb Menter Gwyrdd. 

Cyn hyn, mae'r cynllun wedi cyfrannu cyllid tuag at amrywiol ddiweddariadau parc chwarae, gardd goedwig fwytadwy yn y Pîl a myrdd o brosiectau eraill ar hyd a lled y fwrdeistref sirol.

Rydym wedi bod yn gweithio mwy gyda Chynghorau Tref a Chymuned yn ystod y blynyddoedd diwethaf i feithrin diwylliant o weithio ar y cyd a chydnabod y rôl hynod bwysig y gallant ei chwarae wrth helpu i reoli a chynnal cyfleusterau a gwasanaethau a allai fel arall gael eu colli.

Bydd ail gymal o geisiadau yn agor yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol felly gall hyd yn oed mwy fyth o brosiectau cymunedol gael budd o'r cyllid sy'n weddill ar gyfer 2024/25.

Mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned sydd wedi cael ceisiadau wedi'u gwrthod yn flaenorol er mwyn sicrhau y gall unrhyw geisiadau yn y dyfodol fod wedi eu halinio'n well gyda blaenoriaethau strategol y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:

Chwilio A i Y