Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymorth cyfraddau busnes i barhau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd bron i 900 o fusnesau lleol unwaith eto'n gymwys am gymorth cyfraddau busnes wedi i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gytuno i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.  

Bydd busnesau cymwys yn elwa o ostyngiad 40% oddi ar eu biliau cyfraddau busnes. Mae cyfanswm o £110,000 o ryddhad ar gael ar draws bob eiddo a feddiannir gan yr un busnes drwy Gymru.

Mae'n rhaid i'r busnes fod yn y sector manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft siopau, marchnadoedd, fferyllfeydd, optegwyr, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Mae busnesau nad ydynt yn gymwys yn cynnwys casinos, cynelai a chathdai, meithrinfeydd dydd a gwasanaethau ariannol a meddygol. Mae meini prawf cymhwysedd manwl ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a bydd ar gael o 1 Ebrill 2024 hyd at 31 Mawrth 2025.

Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru'n sicrhau y bydd cymorth parhaus ar gael i ystod o fusnesau yn ystod yr amseroedd economaidd heriol hyn.

Nid yw'r cyngor yn gyfrifol am osod cyfraddau busnes, ond mae awdurdodau lleol yn gweinyddu'r cymorth hanfodol hwn ar ran Llywodraeth Cymru.

Hoffwn annog pob busnes i wirio eu cymhwysedd ac i sicrhau nad ydynt yn colli'r cyfle i dderbyn y cymorth derbyniol hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a'r Gyfraith:

Dylai'r busnesau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd wneud cais am y rhyddhad treth hwn ar-lein drwy fynd ar wefan y cyngor o 1 Ebrill 2024.

Chwilio A i Y