Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymorth ar gael er mwyn cefnogi rhieni i brynu gwisg ysgol cyn y tymor newydd

Atgoffir rhieni a gofalwyr bod cymorth ar gael i brynu gwisg ysgol ac offer arall ar gyfer eu plant cyn y tymor newydd.

Mae Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweld rhieni a gofalwyr yn cael mynediad at gymorth ariannol gwerth dros £500,000 ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unig

Bydd cyllid ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys ar gyfer prydau bwyd ysgol am ddim, ac mae ar gael i bob grŵp blwyddyn ysgol o'r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 11, gan gynnwys disgyblion mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig ac unedau atgyfeirio disgyblion.

 Bydd cyfradd y grant ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23 yn £225 fesul dysgwr, ac eithrio'r disgyblion hynny sy'n dechrau ym Mlwyddyn 7 a fydd yn gallu hawlio £300. Mae hyn yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol. Gall teuluoedd hawlio unwaith fesul plentyn, fesul blwyddyn ysgol.

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) yn cynnig cymorth ariannol i deuluoedd sydd ar incwm isel i brynu:

  • Gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau.                                             
  • Citiau chwaraeon ysgol, gan gynnwys esgidiau.
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i sgowtiaid, y geidiaid, cadetiaid, crefft ymladd, chwaraeon, y celfyddydau perfformio neu ddawns.
  • Offer (er enghraifft, bagiau ysgol ac offer ysgrifennu).
  • Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, megis dylunio a thechnoleg.
  • Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol, megis dysgu awyr agored (er enghraifft, dillad gwrth-ddŵr).
  • Offer TG - gliniaduron a dyfeisiau tabled yn unig. Byddwch angen cadarnhau nad yw ysgol eich plentyn yn gallu cynnig benthyca dyfais tabled/gliniadur iddynt ei ddefnyddio gartref.

Mae teuluoedd yn wynebu cynnydd sylweddol mewn costau byw, a gwyddom y bydd cyllidebau aelwydydd dan bwysau cynyddol, sy'n golygu y bydd sawl teulu yn poeni am fforddio'r pethau y bydd eu plant eu hangen ar gyfer yr ysgol.

Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu gwerth y cynllun Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) am flwyddyn, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o deuluoedd yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael budd ohono.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg y cyngor, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell:

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n gwefan.

Chwilio A i Y