Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymeradwyo gwelliannau priffordd sy’n gysylltiedig â’r bloc addysgu newydd yn Ysgol Gyfun Bryntirion

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i ariannu gwelliannau priffordd angenrheidiol sy’n gysylltiedig ag adeiladu bloc addysgu ychwanegol yn Ysgol Gyfun Bryntirion.

Mae gan Ysgol Gyfun Bryntirion gyllid cyfalaf sydd wedi’i glustnodi ar gyfer bloc addysgu newydd sy’n cynnwys pedair ystafell ddosbarth.  Mae’r ardal ychwanegol yn cael ei hadeiladu i fodloni’r nifer cynyddol o ddisgyblion sy’n dod o ddatblygiadau tai yn nalgylch yr ysgol, gyda datblygwyr yn cyfrannu’n sylweddol at y gost o adeiladu’r ystafelloedd dosbarth newydd.

Rhan o’r amodau cynllunio ar gyfer ehangu’r ysgol yw addasu’r trefniadau teithio llesol neu briffordd sy’n amgylchynu’r ysgol. 

Mae’r Cyngor wedi cytuno i hwyluso ariannu’r addasiadau hyn drwy greu cynllun ar wahân o fewn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y gwelliannau. Telir am hyn drwy drosglwyddo £140k o nifer o gynlluniau moderneiddio ysgolion o fewn y rhaglen gyfalaf.

Bydd y gwelliannau’n cynnwys cyfres o balmentydd is, llwybr cerdded ac ymylon palmant newydd, a phalmentydd botymog, yn ogystal ag arwyddbyst.

Mae’r addasiadau arfaethedig i’r llwybrau teithio llesol a phriffyrdd yn rhan bwysig ac angenrheidiol o ddiogelu’r ardal addysgu ychwanegol ar gyfer Ysgol Gyfun Bryntirion.

Bydd y gwaith hwn yn galluogi i welliannau sylweddol gael eu gwneud i’r ysgol a fydd yn sicrhau y bydd dysgwyr yn elwa arnynt am flynyddoedd i ddod. Rydym yn croesawu’r cyfnod cyffrous hwn o newid i Ysgol Gyfun Bryntirion yn fawr.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y