Cymeradwyo cyllid ar gyfer cyfleusterau cymunedol newydd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 22 Gorffennaf 2022
Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo'r cynlluniau cymunedol diweddaraf i elwa o gronfa gymorth wedi'i sefydlu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dan gynllun Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned, bydd ardal wlypdir newydd gwerth £17,895 yn cael ei chreu gan Gyngor Cymunedol Llangrallo Uchaf, fel y cam cyntaf mewn prosiect mwy, tra bod y gwaith o adnewyddu Canolfan Gymunedol Corneli yn parhau a ffenestr newydd sbon gwerth £19,000 yn cael eu gosod.
Cytunodd y Cabinet y dylai trydydd cais ar gyfer y cynllun - i osod boeleri a falfiau thermostatig newydd yn swyddfeydd Cyngor Tref Maesteg - ystyried defnyddio opsiynau amgen i foeleri tanwydd ffosil, a dylai Rheolwr Rhaglen Datgarboneiddio'r cyngor weithio gyda'r cyngor tref i archwilio opsiynau amgen sy'n ystyrlon o'r amgylchedd.
Mae'r cynllun grant blynyddol, sy'n annog cynghorau tref a chymuned i wneud cais am raniad o gyllid hyd at £65,000, wedi'i gynllunio i gefnogi prosiectau sydd wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) yr awdurdod lleol.
Yn 2021-22, roedd naw cais yn amrywio o waith adfer hanfodol, llawr newydd a gwelliannau hygyrchedd mewn canolfannau cymunedol, i ail-wynebu llwybr gerdded cofeb ryfel a ffensys a system ddraenio newydd mewn caeau chwarae lleol.
Mae gwelliannau blaenorol dan y cynllun wedi canolbwyntio ar adfer ardal chwarae ym Mharc Waun Cimla yn y Pîl ac ym Mharc Llidiard, toiledau cyhoeddus Stryd John ym Mhorthcawl ac amrywiaeth o ganolfannau cymunedol a phafiliynau chwaraeon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio mwy gyda chynghorau tref a chymuned er mwyn meithrin diwylliant o gydweithio, ac mae'r cynllun grant hwn yn cydnabod y rôl hynod bwysig y gallant ei chwarae wrth helpu i reoli a chynnal cyfleusterau a gwasanaethau lleol.
Gan fod llai o geisiadau ar gyfer y cyllid cymorth eleni, byddwn yn sicrhau y bydd yr arian na fydd yn cael ei ddefnyddio'n cael ei ychwanegu at y gronfa ar gyfer 2023-24.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick: