Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cyllideb sy'n ceisio cefnogi teuluoedd, hyrwyddo lles ac amddiffyn y rhai mwyaf bregus

Mae cynigion cyllideb 2023-24 wedi’u cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau y gall yr awdurdod lleol barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a bodloni rhai o’r heriau anoddaf y mae wedi’u hwynebu erioed.

Gyda chyllideb refeniw gros o £485miliwn, cyllideb net o £342miliwn a rhaglen buddsoddi cyfalaf ychwanegol o £69miliwn, mae cynnydd yn y dreth gyngor o 4.9 y cant – i lawr o’r 6 y cant a awgrymwyd yn flaenorol – wedi’i gynnig er mwyn ariannu pwysau ychwanegol ar y gyllideb ac ymdrin â diffyg cyllid o £8miliwn, sy’n cyfateb i £1.50 ychwanegol yr wythnos ar gyfer eiddo Band D cyfartalog.

Yn dilyn dadansoddiad o adborth o ymgynghoriad cyhoeddus ac adolygiad o'r cyllid sydd ei angen i fodloni’r pwysau ariannol sylweddol yn y flwyddyn i ddod, mae'r cyngor wedi gallu diystyru nifer o gynigion, gan gynnwys toriadau i gludiant o'r cartref i'r coleg, gorfodi tipio anghyfreithlon a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Bad Achub.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Huw David: “Heb os nac oni bai, yn fy saith mlynedd fel Arweinydd yr awdurdod a 19 mlynedd fel cynghorydd, dyma’r gyllideb unigol fwyaf heriol i mi fod yn rhan o’i phennu erioed, ac mae’n hanfodol bwysig i ddeall dau beth - yn gyntaf, y cyd-destun cyffredinol y datblygwyd y gyllideb oddi mewn iddo, ac yn ail, y ffaith nad yw’r cyngor yn rhydd rhag yr un anawsterau sy’n effeithio ar bob aelwyd ar hyn o bryd.

“Yn ogystal â chwyddiant cynyddol a’r argyfwng costau byw parhaus, rydym yn parhau i ymdrin â materion megis codiadau enfawr mewn costau tanwydd ac ynni, anawsterau wrth ddod o hyd i ddeunyddiau, galw ychwanegol ar wasanaethau penodol y cyngor, a llawer, llawer mwy.

“Mae hyn yn ychwanegol at ymdrin â galw a chostau cynyddol am wasanaethau sy’n cefnogi pobl hŷn a mwy bregus, y digartref a gofal cymdeithasol i blant ac oedolion fel ei gilydd.

“I gydnabod yr heriau unigryw anodd hyn, rydym yn argymell i’r Cyngor gyllideb newydd, ddiwygiedig sy’n ceisio cefnogi teuluoedd, hyrwyddo lles ac amddiffyn y rhai mwyaf bregus, un sydd o reidrwydd yn cynnwys ffocws llawer trymach ar warchod gwasanaethau presennol.

“Mae hon, felly, yn ‘gyllideb lles i raddau helaeth iawn, un sy’n parhau i fod wedi’i seilio’n gadarn mewn gwirionedd wrth adlewyrchu blaenoriaethau, pwysau a phryderon pobl leol, a gobeithio y caiff ei chydnabod felly pan fydd yn mynd gerbron y Cyngor llawn yr wythnos nesaf ar gyfer trafodaeth a phenderfyniad terfynol.”

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, yr Aelod Cabinet dros Gyllid: “Mae’r gyllideb hon yn adlewyrchu’r realiti yr ydym i gyd yn ei wynebu wrth i’r argyfwng costau byw barhau i gael effaith, ac mae’n blaenoriaethu lles cyffredinol pobl i gydnabod hyn.

“Gydag adolygiad parhaus yn cael ei gynnal i nodi arbedion pellach ar draws holl adrannau’r cyngor a mwy o ffocws ar swyddogaethau cefn swyddfa, mae’r gyllideb ar gyfer 2023-24 yn ceisio paratoi’r cyngor ar gyfer mynd i’r afael ag anawsterau cynyddol a phwysau ariannol a ragwelir yn y dyfodol.

“Drwy ein cyllideb gyfalaf, rydym yn buddsoddi mwy na £69miliwn mewn cyfleusterau a gwasanaethau newydd, gan gynnwys £1.8miliwn ar gyfer uwchraddio mannau chwarae i blant, £1.75miliwn ar grantiau i ddarparu cyfleusterau i’r anabl yng nghartrefi pobl, £1miliwn ar adnewyddu priffyrdd lleol, a mwy.”

“Rydym yn arbed mwy na £100,000 drwy newid i oleuadau stryd LED, £75,000 drwy gyflawni mwy o effeithlonrwydd o ran cyflenwadau ac argraffu, ac rydym yn ceisio cynhyrchu £120,000 drwy osod rhannau o adeilad Ravens Court yn fasnachol.

“Gan fod ond £2miliwn o’r £73miliwn yr ydym wedi gorfod ei arbed yn y 12 mlynedd diwethaf wedi dod o ysgolion lleol, rydym yn gofyn i benaethiaid weithio gyda ni eleni i ddod o hyd i ffyrdd o arbed £2.1miliwn pellach, er y dylai hefyd nodi y bydd y gyllideb net ar gyfer ysgolion yn dal i gynyddu gan fod y cyngor yn ariannu codiad cyflog 2023-24.

“Ar 4.9 y cant, rydym wedi cadw’r cynnydd yn y dreth cyngor mor isel â phosibl fel ei fod yn cyfateb i £1.50 ychwanegol yr wythnos ar gyfer eiddo Band D. Bydd hyn yn ariannu bron i 27 y cant o'r gyllideb, ac yn cyfrannu £90miliwn o tua 65,000 o aelwydydd yn y fwrdeistref sirol.

“Dros yr wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’r gyllideb yn ei olygu i wasanaethau penodol a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys ysgolion, gofal cymdeithasol, priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu a mwy.”

Bydd y gyllideb yn cael ei thrafod gan yr holl aelodau yn y Cyngor llawn ddydd Mercher 1 Mawrth cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Chwilio A i Y