Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyllid yn gwella cyfleusterau ysgolion er budd cymunedau

Gyda thros £2m o gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol yn elwa o ystod o welliannau i'w cyfleusterau, gan annog cymunedau lleol i’w defnyddio.

Mae'r Grant Ysgolion Bro yn rhan o fenter Llywodraeth Cymru i gynyddu defnydd y gymuned o ysgolion. Rhwng 2023 a 2025, bydd y cyllid yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau mewn ysgolion ledled y fwrdeistref sirol, gan gynnwys darparu cyfleusterau ysgolion coedwig awyr agored i ysgolion cynradd ac uwchradd – gan hyrwyddo dysgu awyr agored, lles, yn ogystal ag ymgysylltiad cymunedol.

Bydd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn cael pafiliwn newydd drwy arian gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd Meurig Jones, pennaeth yr ysgol: “Rydym yn hynod hapus o gael cyllid ychwanegol i wella’r cyfleusterau chwaraeon yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Bydd y pafiliwn newydd yn cymryd lle hen gyfleuster Ysgol Gyfun Maesteg ac yn ein galluogi i gael mynediad at gyfleusterau'r 21ain ganrif yn agos at ein maes chwarae pob tywydd newydd. Bydd hyn yn rhoi gofod addysgu a chyfleusterau newid ychwanegol i’n hadran Addysg Gorfforol lwyddiannus ac yn datblygu llwyddiannau ein hadran chwaraeon ymhellach, megis penodi Dewi Lake yn gyd-gapten ar gyfer carfan rygbi dynion Cymru yng nghystadleuaeth nesaf Cwpan Rygbi’r Byd.

“Mae gan yr ysgol berthynas agos â chlybiau chwaraeon lleol a bydd y cwbl yn gallu defnyddio’r cyfleusterau hyn, gan sicrhau bod cyfleusterau rhagorol ar gael yng Nghwm Llynfi ac i’r Urdd gynnig rhagor o gyfleoedd drwy gyfwng y Gymraeg gyda’r nos ac yn ystod y gwyliau ysgol. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cyfleusterau hyn yn cael eu codi a’u hagor yn ystod y misoedd nesaf.”

Am gyfle gwych i’n hysgolion a’n cymunedau. Bydd annog integreiddio agosach o’r ddau yn sicr o arwain at ganlyniad cadarnhaol – gan alluogi cyfleusterau cyfoes i fod yn fwy hygyrch ar gyfer aelodau’r gymuned, yn ogystal â chreu cysylltiadau cryfach o bosibl rhwng teuluoedd ac ysgolion.

Mae'r fenter hon gan Lywodraeth Cymru yn rhan o gasgliad o fesurau, a fydd yn darparu mwy o gefnogaeth i ysgolion i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, waeth beth yw ei gefndir.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y