Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyllid Llywodraeth Cymru yn hwyluso tai cymdeithasol newydd yn y Pîl

Mae safle hen dafarn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, The Old Crown Inn yn y Pîl, a ddymchwelwyd yn 2018, wedi cael ei drawsnewid i gynnig tai cymdeithasol newydd, gan ddarparu llety byw deniadol a fforddiadwy.

Mewn partneriaeth â Linc Cymru a chan ddefnyddio cyllid o Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, mae'r cyngor wedi cefnogi i gwblhau pedwar cartref newydd sydd wedi’u hadeiladu gan Castell Group - cwmni datblygu eiddo sy’n arbenigo mewn darparu tai cymdeithasol, fforddiadwy ac wedi’u haddasu yn ardal De Cymru.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cwblhau’r pedwar tŷ cymdeithasol hyn, y mae mawr eu hangen,” meddai Dorian Payne, Rheolwr Gyfarwyddwr Castell Group. “Bydd yr eiddo hyn yn darparu llety fforddiadwy, o ansawdd uchel, i deuluoedd.”

Mae'r cartrefi’n elwa ar dair ystafell wely, yn ogystal ag ardaloedd byw hael, ystafelloedd ymolchi i lawr y grisiau a digonedd o le parcio.  Mae'r eiddo wedi’u cynllunio i gyflawni'r ardystiad effeithlonrwydd ynni uchaf (EPC A), sy’n golygu y bydd gan denantiaid gostau tanwydd is.  Gosodwyd gwres trydan yn yr eiddo yn hytrach na nwy, ac mae paneli solar PV ar y to yn hyrwyddo datgarboneiddio, yn ogystal â lleihau allyriadau CO2.

Rydym wedi darparu £600,000 o’n dyraniad Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad y pedwar eiddo modern hyn yn y Pîl.

Gan ddarparu'r cyfleusterau diweddaraf, gyda safleoedd wedi’u haddasu, yn ogystal â rhoi ystyriaeth i’r heriau hinsawdd sy’n ein hwynebu yn fyd-eang, mae'r adeiladau newydd hyn yn gaffaeliaid gwych i’r ardal. Mae’n braf iawn ein bod wedi gallu trawsnewid y safle yn gartrefi o ansawdd uchel i deuluoedd eu mwynhau.

Gyda galw cynyddol am dai ledled y fwrdeistref, mae’n braf gweld cartrefi newydd, carbon effeithlon yn cael eu hagor i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Eiddo a Masnachol Linc Cymru, Louise Attwood: “Rydym yn frwd dros greu amgylcheddau lle all pobl ffynnu.  Bydd y cartrefi newydd hyn yn rhoi lle diogel braf i deuluoedd fyw ynddo.”

Chwilio A i Y