Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyllid i gefnogi'r terfyn cyflymder newydd o 20mya ar ffyrdd ar draws y fwrdeistref sirol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar fin derbyn bron i £1m gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda gweithredu’r terfyn cyflymder 20mya newydd ar ffyrdd ledled Cymru.

Mae deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd y terfyn cyflymder yn gostwng o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig o 17 Medi 2023.

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig, lle ceir llawer o bobl. Yn aml mae ganddynt oleuadau stryd, wedi’u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd.

Nod y newid yw lleihau anafiadau ar y ffyrdd, cynnig amgylchedd mwy diogel i annog beicwyr a cherddwyr, yn ogystal â lleihau llygredd sŵn.

Ni fydd pob ffordd sydd â’r terfyn 30mya yn addas i’w newid i 20mya ar hyn o bryd - bydd y ffyrdd hyn yn cael eu hadnabod fel eithriadau. Bydd ymgynghori â chymunedau yn penderfynu pa ffyrdd a ddylai aros yn 30mya a bydd arwyddion terfyn cyflymder i bwysleisio hyn. 

Rydym yn croesawu’r cyllid sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn ein galluogi i wneud y newidiadau cadarnhaol, angenrheidiol i’n ffyrdd.

Gall y terfyn cyflymder newydd o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig fod o fudd i’n cymunedau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys annog arferion gyrru mwy diogel, yn ogystal â strydoedd mwy diogel ar gyfer chwarae, cerdded a beicio, heb sôn am hyrwyddo dewisiadau teithio mwy cynaliadwy - rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r newid hwn a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y