Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyllid gwerth £800,000 ar gyfer prosiect sy’n cefnogi plant a phobl ifanc

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo’r fenter ‘Meithrin Perthnasoedd gyda’n Gilydd’ (RBT) - prosiect sydd bennaf yn gwerthuso sut all gwasanaethau sy’n defnyddio’r Model Gwella o Drawma (TRM) fod o fudd i blant sydd wedi’u heffeithio gan drawma.

Roedd y cynnig ar y cyd i sefydlu’r cynllun RBT yn cynnwys chwe thîm o fewn yr awdurdod lleol, yn cydweithio gyda’r Gwasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig y Glasoed Cymru Gyfan (FACTS) - adran o’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).

Dim ond un o bedwar prosiect llwyddiannus ledled Cymru a Lloegr yw’r cynllun RBT, a’r unig fenter yng Nghymru i sicrhau cyllid o’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid (YEF) drwy ei Rownd Cyllid Ymarfer a Lywir gan Drawma, a ariennir ar y cyd gan y Swyddfa Gartref. Mae’r YEF yn ariannu prosiectau ledled y DU sy’n ceisio ennill dealltwriaeth o strategaethau llwyddiannus er mwyn atal plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan mewn trais.

Dywedodd Jon Yates, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gronfa Gwaddol Ieuenctid: “Gallai hyfforddi athrawon, gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid a chymorth cynnar i adnabod arwyddion trawma helpu mwy o blant i dderbyn y cymorth priodol yn gynnar ac atal problemau yn hwyrach mewn bywyd. Y broblem yw bod gennym ddiffyg tystiolaeth gref ynglŷn â ph’un a yw’r math hwn o hyfforddiant yn gwneud gwahaniaeth amlwg mewn gwirionedd.

“Er bod y defnydd o hyfforddiant a lywir gan drawma wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw hynny’n wir am y nifer o werthusiadau neu astudiaethau cadarn i’r ymarfer. Bydd y cyllid hwn yn ddatblygiad mawr tuag at newid hynny.”

Ar ôl ei fireinio a'i gwblhau, gyda chymorth tîm gwerthuso a gomisiynwyd o Brifysgol Caint, mae’r prosiect yn barod i gael ei gynnal o fis Hydref 2023 tan fis Mawrth 2025.  Bydd yn cael ei dreialu o fewn chwe thîm ar draws Grŵp Cymorth i Deuluoedd y cyngor, yn gweithio gyda thua 800 o blant. Bydd y cynllun yn cwmpasu hyfforddiant staff mewn perthynas â’r TRM, yn ogystal â recriwtio swyddi ychwanegol - gan gynnwys swydd seicolegydd clinigol.

Dywedodd Chris Philp y Gweinidog Plismona: “Mae mynd i’r afael â thrais difrifol yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn pobl ifanc rhag niwed a throseddoldeb.

“Bydd yr ymchwil hwn yn hanfodol o ran cael gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd wrth wraidd y broblem o drais ymysg pobl ifanc, a bydd yn allweddol wrth ein helpu ni a’r YEF i gynorthwyo plant i reoli eu trawma ac osgoi bywyd o droseddoldeb treisgar.”

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Rydym yn teimlo’n hynod gyffrous ynglŷn â’r prosiect RBT a’r cyfleoedd posib y gall eu cynnig i’n pobl ifanc sydd wedi profi trawma.

 “Mae’r chwe thîm o’r cyngor sydd ynghlwm â’r prosiect ar hyn o bryd yn gweithio gyda thua 1000 o blant y flwyddyn, ac amcangyfrifir bod dros 75 y cant o’r plant hynny wedi profi trawma sylweddol.  Mae hyn wedi cael effaith ar eu gallu i ddatblygu perthnasoedd ystyriol ac wedi arwain at ymddygiad problemus.

 “Mae nifer o’r plant hyn yn cwympo islaw trothwy CAMHS a gwasanaethau niwroddatblygiadol eraill, sy’n golygu nad yw eu bregusrwydd yn eu galluogi i gael cymorth a fyddai’n eu cynorthwyo i wella o’r trawma maent wedi'i brofi.

“Yn aml, caiff cymorth ar gyfer plant sy’n adfer o drawma ei weithredu pan fo sefyllfa’r plentyn wedi gwaethygu.  Er enghraifft, pan fo’r unigolyn ifanc wedi mentro i’r byd troseddu, lle mae wedi’i ecsbloetio, neu pan mae wedi bod mewn sawl lleoliad gofal.

“Nod y prosiect hwn yw gweithio gyda phlant yn llawer cynharach, atal gwaethygiad, a’u cefnogi i adfer o unrhyw drawma maent wedi'i brofi.

“Mae’r cynllun yn werth chweil, ac mae’n llawn potensial i wella llesiant ac ansawdd bywyd ein pobl ifanc.”

Chwilio A i Y