Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyllid ar gyfer banciau bwyd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd banciau bwyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn elwa ar hwb i gyllid gwerth bron i £23,000 er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd a sicrhau nad yw trigolion lleol yn llwgu.

Caiff y cyllid ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i menter Cronfa Gymorth i Aelwydydd.

Mae cyfanswm o £22,907 wedi'i ddyrannu tuag at Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn nodi bod nifer y bobl sy'n wynebu tlodi bwyd ar draws Cymru yn cynyddu, ac mae'n dweud mai bwriad yr arian yw cefnogi mentrau bwyd cymunedol sydd yn ei chael hi'n anodd bodloni anghenion pobl leol.

Fel rhan o rwydwaith cenedlaethol sy'n dibynnu ar roddion bwyd ac eitemau eraill i'r cartref, caiff y banc bwyd ei weithredu gan y Trussell Trust, sy'n gweithio i fynd i'r afael â thlodi a newyn ledled y DU, a chaiff ei gefnogi gan sefydliadau fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn gweithredu o sawl lleoliad lleol, mae'n helpu pobl sydd wedi cael eu cyfeirio gan weithwyr proffesiynol, yn amrywio o feddygon, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol i heddlu a gwasanaeth Cyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn cynnig digon o fwyd maethol-gytbwys iddynt ar gyfer tridiau ar y tro, yn ogystal â mynediad at gyngor a chymorth arbenigol.

Mae pob un ohonom yn profi effaith yr argyfwng costau byw, ond mae rhai teuluoedd ac unigolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei chael hi'n anoddach nag eraill. Nid yw digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol diweddar wedi helpu'r sefyllfa, ac mae'n profi i fod yn fwyfwy anodd a drud i gael gafael ar rai eitemau.

Bwriad y cyllid hwn yw cefnogi sefydliadau bwyd cymunedol drwy eu helpu nhw i brynu cyflenwadau ychwanegol o fwyd o safon a nwyddau hanfodol, ac i wella eu capasiti i fodloni anghenion pobl leol.

Wrth gwrs, rwy'n gobeithio na fydd angen i ni ddibynnu ar fanciau bwyd fel ffordd o fwydo pobl, ac y byddent yn dod yn hen beth rhyw ddiwrnod cyn hir, ac yn bennod o hanes modern y byddwn yn edrych yn ôl arno gyda'r sioc a'r gofid mae'n ei haeddu. Tan hynny, bydd y cyllid hwn yn mynd yn bell tuag at helpu i gadw trigolion lleol yn ddiogel ac yn iach, ac rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad hwn i'r gwasanaeth banc bwyd."

Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Wrth gyhoeddi y byddai Llywodraeth Cymru'n cyflwyno cyllid i fanciau bwyd ym mis Tachwedd y llynedd, dywedodd Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: "Rwyf wedi penderfynu cynnig dros £1.1m i gefnogi ac atgyfnerthu banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol, gan eu cefnogi i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd, a chynnig ystod ehangach o wasanaethau er mwyn helpu unigolion a theuluoedd i wneud y mwyaf o'u hincwm.

"Gwyddom fod pobl ledled Cymru'n wynebu heriau nas gwelwyd o'r blaen, dyna pam ein bod wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu pwysau ariannol a helpu aelwydydd gyda'u costau byw - gan gefnogi teuluoedd, busnesau a chymunedau yn ystod cyfnod eithriadol hwn."

Er mwyn dysgu mwy, neu i gael help a chymorth, ewch i www.bridgend.foodbank.org.uk neu cysylltwch â'r llinell frys ar 01656 762800 – noder, caiff y llinell frys ei hwyluso ar ran y banc bwyd gan Gyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y