Cyflwyno Wi-Fi am ddim i ganol trefi
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 18 Tachwedd 2022
Mae Wi-Fi am ddim bellach ar gael yng nghanol trefi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda'r nod o gynyddu cysylltedd ymysg trigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Mae'r gwasanaeth am ddim ar gael yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Maesteg a Phencoed.
Er mwyn cysylltu, bydd angen i unigolion chwilio am "BCBC free Wi-Fi" yn eu gosodiadau rhwydwaith Wi-Fi, ac yna bydd angen iddynt nodi eu cyfeiriad e-bost i ddechrau.
Bydd yr hafan yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg, a bydd togl ar gornel dde uchaf y sgrin ar gyfer trigolion sy’n dymuno newid yr iaith i’r Saesneg.
Cynhaliwyd y lansiad yn siop goffi a becws Beat, ar Allt yr Orsaf.
Mae Beat yn ychwanegiad newydd ac unigryw i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac maent yn defnyddio cynhwysion lleol pryd bynnag y bo'n bosibl. Mae cymysgedd o fara, cacennau patisserie, cynnyrch crwst Danaidd a brechdanau ar gael, ac mae coffi wedi'i gynhyrchu'n lleol ar werth i'w fwynhau ar y safle neu i fynd gyda chi. Mae nifer o'r cynhwysion hefyd ar gael i gwsmeriaid eu prynu.
Dywedodd Adrian Moses, perchennog Beat: "Mae'r cyngor wedi bod yn gymorth arbennig ers i ni agor ym mis Gorffennaf, ac mae Wi-Fi am ddim yn ychwanegiad hynod ddefnyddiol i fusnesau yng nghanol y dref. Er enghraifft, bydd pobl bellach yn gallu pori'r we, gweithio o bell o'n becws neu wirio eu negeseuon e-bost wrth alw heibio ar eu ffordd i'r orsaf drenau gyfagos."
Dywedodd Ghiselle, un o'r trigolion lleol ac un o gwsmeriaid rheolaidd yn Beat: "Mae'n wych gweld Wi-Fi am ddim yn cael ei gynnig yng nghanol y dref ac mae'n bendant yn rheswm ychwanegol i bobl ddod draw a chefnogi busnesau lleol, fel Beat."
Mae Wi-Fi am ddim yn fuddsoddiad cadarnhaol arall i'r fwrdeistref sirol, gan y bydd yn helpu i annog trigolion i wario'u harian yn lleol ac ymweld â'n trefi am gyfnodau hirach o amser, wrth fanteisio ar yr amrywiaeth eang o fusnesau sydd ar gael.
Mae arferion cwsmeriaid yn newid a bydd y gallu i weithredu mewn ffordd sy'n canolbwyntio mwy ar yr elfen ddigidol yn cefnogi busnesau lleol i ymgysylltu ag ystod ehangach o gwsmeriaid.
Mae'r buddsoddiad hwn unwaith eto yn dangos ein hymrwymiad i ganol ein trefi ac rwy'n sicr y bydd y gymuned yn elwa ar y cyfan.
Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio: