Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyflwyno prosiect arloesol i gefnogi plant a phobl ifanc

Roedd 18 Hydref yn nodi lansiad y prosiect ‘Meithrin Perthnasoedd gyda’n Gilydd’ (RBT) - menter sy’n gwerthuso sut y gall gwasanaethau sy’n defnyddio’r Model Gwella o Drawma (TRM) fod o fudd i blant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan drawma. 

Ynghyd â thîm gwerthuso o Brifysgol Caint, mae’r cynllun RBT yn cynnwys chwe thîm o fewn yr awdurdod lleol, yn gweithio gyda Gwasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig y Glasoed Cymru Gyfan (FACTS) - adran o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).

Dim ond un o bedwar prosiect llwyddiannus ledled Cymru a Lloegr yw’r cynllun RBT, a’r unig fenter yng Nghymru i sicrhau cyllid o’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid (YEF) drwy ei Rownd Cyllid Ymarfer a Lywir gan Drawma, a ariennir ar y cyd gan y Swyddfa Gartref. Mae’r YEF yn ariannu prosiectau ledled y DU sy’n ceisio ennill dealltwriaeth o strategaethau llwyddiannus er mwyn atal plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan mewn trais.

Dywedodd Jon Yates, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gronfa Gwaddol Ieuenctid: “Gallai hyfforddi athrawon, gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid a chymorth cynnar i adnabod arwyddion trawma helpu mwy o blant i dderbyn y cymorth priodol yn gynnar ac atal problemau yn hwyrach mewn bywyd. Y broblem yw bod gennym brinder tystiolaeth gref ynglŷn ag a yw’r hyfforddiant yn gwneud gwahaniaeth amlwg mewn gwirionedd.

“Er bod y defnydd o hyfforddiant a lywir gan drawma wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw hynny’n wir am y nifer o werthusiadau neu astudiaethau cadarn i’r ymarfer. Bydd y cyllid hwn yn ddatblygiad mawr tuag at newid hynny.”

Ar ôl ei fireinio a'i gwblhau, gyda chymorth tîm gwerthuso a gomisiynwyd o Brifysgol Caint, dechreuodd y prosiect y mis yma a bydd disgwyl iddo ddod i ben ym mis Mawrth 2025.  Bydd yn cael ei dreialu o fewn chwe thîm ar draws Grŵp Cymorth i Deuluoedd y cyngor, gan weithio gyda thua 800 o blant. Bydd y cynllun yn cwmpasu hyfforddiant staff mewn perthynas â’r TRM, yn ogystal â recriwtio swyddi ychwanegol - gan gynnwys swydd seicolegydd clinigol.

Dywedodd y Gweinidog Trosedd, Plismona a Thân, Chris Philp: “Mae mynd i’r afael â thrais difrifol yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn pobl ifanc rhag niwed a throseddoldeb.

“Bydd yr ymchwil hwn yn hanfodol o ran cael gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd wrth wraidd y broblem o drais ymysg pobl ifanc, a bydd yn allweddol wrth ein helpu ni a’r YEF i gynorthwyo plant i reoli eu trawma ac osgoi bywyd o droseddoldeb treisgar.”

Mae gan bawb ohonom ffydd yn y prosiect hwn a’r hyn mae’n addo ei gynnig i bobl ifanc, nid yn unig yn y fwrdeistref sirol, ond yn ehangach ledled y DU.

Oherwydd yr heriau a’r cymhlethdodau a ddaw yn sgil gwerthusiad o’r raddfa hon, dyma’r tro cyntaf i brosiect o’r maint hwn gael ei roi ar waith. Gobeithiwn y bydd y gwerthusiad manwl hwn o’r TRM yn darparu sylfaen dystiolaeth gref i adeiladu arni yn y dyfodol.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Noder:

Mae gan y Gronfa Gwaddol Ieuenctid becyn cymorth sy’n cynnwys tystiolaeth ddiweddar ar ba ymyriadau sy’n effeithiol o ran mynd i’r afael â rhan pobl ifanc mewn trais.

Chwilio A i Y