Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfle olaf i wneud cais am daliad gwerth £150 i gefnogi costau byw

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog llond llaw o drigolion nad ydynt wedi gwneud cais i gael taliad costau byw gwerth £150, i wneud hynny cyn y dyddiad cau.

Yn ddiweddar, anfonodd y cyngor lythyrau at bob aelwyd gymwys a oedd yn weddill i'w hatgoffa i hawlio'r taliad untro. Mae'n rhaid i drigolion gwblhau eu cais cyn pen 30 diwrnod o'r dyddiad sydd wedi'i nodi ar eu llythyr.

I hawlio'r taliad mewn ffordd ddidrafferth, ewch i wefan y cyngor: www.bridgend.gov.uk ac ewch i'r dudalen sy'n ymwneud â'r taliad costau byw sydd ar gael yn yr hafan.  Bydd yn eich arwain at ffurflen ar-lein fer, a gallwch ei llenwi a'i chyflwyno mewn mater o funudau.

I hawlio'r taliad hwn, bydd angen i chi roi manylion y cyfrif banc rydych am i'r taliad gael ei dalu iddo. Mae angen i'r cyfrif banc fod yn enw'r unigolyn sy'n talu'r dreth gyngor. Bydd y llythyr hwn hefyd yn cynnwys cod mynediad unigryw a rhif cyfrif treth gyngor yr ymgeisydd, a bydd ei angen i gwblhau'r ffurflen ar-lein.

Gall ymgeiswyr nad oes ganddynt fodd o ddefnyddio'r we alw yn eu llyfrgell leol a defnyddio'r cyfleusterau yno i gwblhau'r broses hawlio. Fodd bynnag, bydd angen iddynt fynd â'u llythyr gyda nhw i'r llyfrgell gan y bydd y staff yno angen y wybodaeth berthnasol os ydynt am helpu pobl i lenwi'u ceisiadau.

Anogir aelwydydd i ddilyn y cyfarwyddiadau ar y llythyr yn ofalus a gwneud cais cyn gynted â phosibl, oherwydd bydd y cod mynediad unigryw a nodwyd yn y llythyr yn dod i ben 30 diwrnod o'r dyddiad a nodwyd ar y llythyr.

Hyd heddiw, mae 90 y cant o aelwydydd cymwys wedi derbyn y cymorth ariannol hwn, fydd yn eu helpu nhw i ymdopi â'r cynnydd mewn costau byw.

Gellir gwneud taliadau hefyd i gyfrif cymdeithas adeiladu. I wneud hyn, bydd angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein, ac anfon eich rhif cyfeirio at col@bridgend.gov.uk mewn e-bost sy'n dwyn y teitl 'Brys - cyfrif cymdeithas adeiladu'.

Fel arall, os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y broses, cysylltwch â'r cyngor drwy'r cyfeiriad e-bost uchod, neu drwy ffonio 01656 643643 - pwyswch opsiwn sero ar ôl dewis eich iaith, yna, dewiswch opsiwn un er mwyn cael siarad ag ymgynghorydd.

Mae'r cymorth yn rhan o fenter gwerth £152m gan Lywodraeth Cymru i helpu aelwydydd godi ar eu traed eto ar ôl pandemig Covid-19, ac i ymdopi ag effaith costau cynyddol biliau ynni, tanwydd a bwyd.

Chwilio A i Y