Cyfle olaf i ddweud eich dweud yn ein hymgynghoriad Carbon Sero Net
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 17 Awst 2022
Caiff trigolion eu hatgoffa bod ganddynt hyd at 30 Awst 2022 i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad Carbon Sero Net i ddweud eu dweud a sicrhau bod Strategaeth 2030 Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei chyflawni'n effeithiol.
Strategaeth Carbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr, neu 'Strategaeth 2030 Pen-y-bont ar Ogwr' yw'r cam strategol cyntaf i gyflawni ymrwymiadau'r cyngor. Bydd y strategaeth hon hefyd yn parhau i fod yn rhan annatod o Gynllun Corfforaethol a Chynllun Llesiant y cyngor.
Nod yr ymgynghoriad yw ceisio safbwyntiau’r cyhoedd ynghylch datgarboneiddio, yn benodol y newid yn yr hinsawdd, ymrwymiadau'r cyngor, mentrau arfaethedig, lleihau ein hôl troed carbon a mwy. Datgarboneiddio yw'r broses o leihau 'dwysedd carbon' a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir drwy losgi tanwyddau ffosil.
Mae'r ymgynghoriad Carbon Sero Net yn dod i ben cyn bo hir, ac mae'n hanfodol ein bod yn casglu barn cynifer o bobl â phosibl er mwyn cyflawni Strategaeth 2030 Pen-y-bont ar Ogwr yn effeithiol.
Rydym wedi cael ymateb cadarnhaol a chyson hyd yn hyn ac rydym yn annog unrhyw un nad ydyw wedi cymryd rhan eto i dreulio ychydig o amser i rannu eich barn ynghylch sut all yr awdurdod lleol fynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
Y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein ar ein gwefan, neu os na allwch chi gael mynediad at ein gwefan, gallwch ofyn am yr ymgynghoriad ar ffurfiau amgen.
I ofyn am yr ymgynghoriad ar ffurfiau amgen, cysylltwch â'r tîm Ymgynghori drwy e-bost: consultation@bridgend.gov.uk, ffôn: 01656 643664 neu anfonwch neges destun: 18001 01656 643664.