Cyfle i geisio cymorth a chyngor mewn digwyddiadau am ddim yn ymwneud â chostau byw
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 26 Hydref 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda sefydliadau lleol, gan gynnwys BAVO, Awen, Cymoedd i’r Arfordir a'r Ganolfan Byd Gwaith i gefnogi trigolion i fynd i'r afael ag amrywiaeth o broblemau sy'n ymwneud â'r argyfwng costau byw.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol i roi cyfle i bobl siarad yn bersonol â staff cymorth o sefydliadau gwahanol. Cynigir cyngor ac arweiniad ynghylch heriau dydd i ddydd, gan gynnwys talu biliau ynni, hawlio budd-daliadau, delio â phroblemau tai, cael gwared ar ddyled a phrynu bwyd.
Bydd rhai digwyddiadau ar ffurf sesiynau galw heibio ac felly nid oes angen trefnu apwyntiad. Bydd digwyddiadau eraill yn cael eu trefnu gan y Ganolfan Byd Gwaith, a bydd angen trefnu apwyntiad ymlaen llaw drwy Hyfforddwr Gwaith o'r ganolfan - gofynnir eich bod yn gleient presennol er mwyn gwneud hyn.
Dyddiad |
Digwyddiad |
Manylion |
Lleoliad |
7 Tachwedd
|
Digwyddiad costau byw Canolfan Byd Gwaith Maesteg
|
Trefnwch apwyntiad drwy Hyfforddwr Gwaith o Ganolfan Byd Gwaith Maesteg
|
Canolfan Byd Gwaith Maesteg, Commercial Street, Maesteg CF34 9DF
|
7 Tachwedd |
Digwyddiad Ynni Doeth BAVO |
1pm - 4pm |
Dyffryn Chapel, Bedw Street, Caerau, Maesteg CF34 0TF |
14 Tachwedd |
Digwyddiad Ynni Doeth BAVO |
1pm - 4pm |
Eglwys y Bedyddwyr Hope, Allt yr Orsaf, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1EA |
22 Tachwedd |
Canolfan Byd Gwaith Pen-y-bont ar Ogwr |
Trefnwch apwyntiad drwy Hyfforddwr Gwaith o Ganolfan Byd Gwaith Pen-y-bont ar Ogwr
|
Canolfan Byd Gwaith Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1LL |
23 Tachwedd
|
Digwyddiad costau byw Canolfan Byd Gwaith Porthcawl |
Trefnwch apwyntiad drwy Hyfforddwr Gwaith o Ganolfan Byd Gwaith Porthcawl |
Canolfan Byd Gwaith Porthcawl, 2-4 Dock Street, Porthcawl, CF36 2BL |
30 Tachwedd
|
Cymunedau am Waith - digwyddiad costau byw Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr |
|
Dyffryn Chapel, Bedw Street, Caerau, Maesteg, CF34 0TF
|
Mae'n galonogol iawn gweld sefydliadau cymorth lleol yn cydweithio yn ystod y cyfnod heriol hwn i sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael i bobl sy'n wynebu problemau yn ystod y sefyllfa bresennol.
Mae'r sefydliadau hyn yn cynnig cyfoeth cyfunol o wybodaeth ac arbenigedd, ac yn atgyfeirio pobl at y cyngor cywir ar gyfer y problemau penodol maen nhw'n eu hwynebu.
Gall cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir wneud gwahaniaeth go iawn i'r bobl yn y sefyllfaoedd hyn. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n poeni am gostau byw i fynd i ddigwyddiad i gael cyngor arbenigol.
Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Maxine Barrett, e-bost: maxine.barrett@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 815317.