Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwm Ogwr i elwa o brosiect i gynyddu coetiroedd

Mewn ymgais i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â chynyddu coetiroedd a chysylltedd cynefinoedd ar frig Cwm Ogwr, nod y cyngor yw plannu dros 10,000 o goed, gyda chynllun mosaig cynefin yn cael ei gynnig ar gyfer Caeau Aber, a elwir hefyd yn 'Planka'.

Bydd cam cyntaf y rhaglen yn cynnwys plannu dros 5,500 o rywogaethau o goed brodorol; a bydd camau dau a thri yn canolbwyntio ar greu dolydd blodau gwyllt.  Bydd cam olaf y fenter yn cynnwys dileu rhywogaethau o goed nad ydynt yn frodorol, fel y llawrgeirios a choed cedrwydd cochion, mewn ymgais i helpu rhywogaethau brodorol i ailsefydlu.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:

Bydd y cynllun yn creu ardal fwy ecolegol amrywiol yng Nghaeau Aber, ac yn ogystal â hynny, bydd y cynefinoedd newydd hefyd yn hyrwyddo cysylltedd cynefinoedd, yn ogystal â budd i rywogaethau ar raddfa dirwedd ar frig Cwm Ogwr.

Er bod y prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, rydym yn gobeithio y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn meithrin cymorth gydag ychydig o'r gwaith a’r rheolaeth barhaus wedi hynny ar Gaeau Aber.

Rydym yn teimlo’n arbennig o gyffrous am y cynllun hwn a'r hyn a gynigir i helpu’r amgylchedd, yn ogystal â'r trigolion lleol sy'n gallu gwneud defnydd o’r ardal.

Chwilio A i Y