Chwilio am yrwyr i gefnogi Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 17 Awst 2022
Mae Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr eisiau recriwtio gyrwyr newydd a fydd yn gallu cefnogi eu gwasanaethau mewn amrywiaeth o swyddi gwirfoddol a chyflogedig.
Fel elusen leol, mae Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr efallai nad oes ganddynt fynediad at gludiant arall trwy ddarparu ystod o wasanaethau amgen.
Mae’r Teithiwr Tref yn helpu preswylwyr i gynnal eu hannibyniaeth a gwneud tasgau wythnosol megis siopa, cymdeithasu, mynd i apwyntiadau meddygol a mwy.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:30am a 4:30pm, y bwriad yw cynnig gwasanaeth fforddiadwy o ddrws i ddrws sydd hefyd yn cymryd pasys bws fel rhan o’r Cynllun Teithio Rhatach Cymru Gyfan.
Nid yw’r gwasanaeth yn rhedeg ar amserlen gaeth, mae’n amodol ar argaeledd a rhaid trefnu lle ymlaen llaw. Mae gyrwyr yn sicrhau bod y teithwyr yn mynd ar ac oddi ar y cerbyd yn ddiogel, a hyd yn oed yn helpu i gario siopa at eu drws.
Gyda chynnydd blynyddol o rhwng 10 a 15 y cant mewn teithwyr bob blwyddyn, mae’r gwasanaeth Teithiwr Tref yn dod yn ffordd gynyddol boblogaidd o deithio o gwmpas.
Gyda fflyd o fysys mini gwbl hygyrch, mae Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn darparu gwasanaethau ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn ogystal ag unigolion gyda gofynion symudedd penodol.
Dywedodd Graham Cartwright, Rheolwr Gweithrediadau, Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sydd â thrwydded i yrru bysys mini, ond rydym yn darparu hyfforddiant llawn i’n holl staff a gwirfoddolwyr.”
Mae Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaeth hynod werthfawr i gymunedau lleol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion na fyddant o bosibl yn gallu mynd o gwmpas fel arall.
Mae’r math hwn o wasanaeth yn dibynnu ar ei ddefnyddwyr i’w wneud yn hyfyw, ac rwy’n falch iawn i weld pa mor llwyddiannus mae wedi bod ers ei lansio yn 2014.
Rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i ffynnu a chefnogi preswylwyr lleol sy’n agored i niwed.
Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick
I gael gwybod mwy am sut y gallwch gefnogi Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr trwy ddod yn yrrwr lleol ewch i:www.bridgendcommunitytransport.co.uk neu ffoniwch (01656) 669665.