Cerddi, gwaith celf, gorchuddion wyneb a mwy i'w rhoi yng Nghapsiwl Amser Neuadd y Dref Maesteg
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 29 Gorffennaf 2022
Mae disgyblion o Ysgol Gyfun Maesteg ymysg y rheiny sydd wedi cyfrannu eitemau ar gyfer capsiwl amser a fydd yn cael ei gladdu dan Neuadd y Dref Maesteg fel rhan o'i ailddatblygiad gwerth £8m.
Bydd y capsiwl, sydd wedi'i gofrestru gyda'r Gymdeithas Capsiwl Amser Rhyngwladol, yn cael ei agor ymhen can mlynedd, yn y flwyddyn 2122.
Bydd yn cynnwys cerdd o'r enw 'Maesteg: Ein Tref, Ein Hanes' sydd wedi'i chyfansoddi gan fyfyrwyr Blwyddyn 8, Olivia Waite, Emily Rees, Noah Tanner, Angus Gray a Dylan Norris, a gwaith celf gan fyfyrwyr Celfyddydau Mynegianol Blwyddyn 7, Lois Hopkins, Katy John, Shaun Prior a Rachela Glowacka.
Ymysg yr eitemau fydd yn disgwyl cael eu canfod gan genedlaethau'r dyfodol mae gorchudd wyneb Covid-19 a phrawf llif unffordd, erthyglau papur newydd yn nodi Jiwbilî Platinwm y Frenhines a'r rhyfel yn Wcráin, ceiniogau, stampiau a chyfeiriadau at dechnoleg, cerddoriaeth a ffasiwn bresennol.
Bydd y capsiwl amser yn cael ei gladdu gan gontractwyr adeiladu Knox and Wells fel rhan o ailddatblygiad parhaus adeilad neuadd y dref Gradd II rhestredig, a fydd yn cynnwys nodweddion newydd gan gynnwys llyfrgell newydd sbon, canolfan dreftadaeth, caffi, theatr stiwdio ac ardal sinema yn 2023.
Dywedodd Kellie Turner, Cyfarwyddwr Dysgu ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn Ysgol Gyfun Maesteg: "Mae disgyblion yn Ysgol Gyfun Maesteg bob amser yn mwynhau'r cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol, felly roedd cael cyfle i gyfrannu at y capsiwl amser yn fraint fawr.
"Mae'r gwaith celf a'r farddoniaeth yn adlewyrchu beth yw ystyr Maesteg i'n disgyblion o ran y gymuned a threftadaeth. Rydym i gyd ar ben ein digon bod ein gwaith yn adlewyrchu Maesteg, ddoe a heddiw, a'i fod yn mynd i fod yn rhan o'r dyfodol hefyd, un diwrnod."
Mae'r syniad i greu capsiwl amser fel rhan o brosiect ailddatblygiad Neuadd y Dref Maesteg yn ffordd addas o ychwanegu mwy fyth o hanes i adeilad sydd eisoes yn eiconig ar draws y fwrdeistref sirol.
Bydd yn hynod ddiddorol i genedlaethau'r dyfodol ddatgelu'r arteffactau ymhen 100 mlynedd, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi cipolwg go iawn iddynt o sut beth oedd bywyd heddiw.
Mae hefyd yn wych gweld bod disgyblion Ysgol Gyfun Maesteg yn cymryd rhan yn y prosiect hwn, gan fydd yr ailddatblygiad yn cael effaith hirdymor a chadarnhaol ar bobl o bob oed.
Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen gofrestredig sy'ncydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i drawsnewid Neuadd y Dref Maesteg: "Mae'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn Neuadd y Dref Maesteg i ddiogelu ei dyfodol, a sicrhau ei fod yn addas at y diben am sawl blwyddyn i ddod, yn gyfle unwaith mewn cenedl, felly rwyf ar ben fy nigon bod disgyblion ysgol lleol wedi cymryd rhan yn y prosiect capsiwl amser hwn."
"Mae'n arbennig meddwl y gall eu hwyrion ac wyresau ddatgelu'r gerdd a'r gwaith celf a gafodd eu creu yn 2022 yn 2122 - hanes go iawn o hanes cymdeithasol yn cael ei greu! Rwy'n siŵr fydd pwy bynnag fydd yn agor y capsiwl yn y dyfodol yn gweld y cynnwys yn hynod ddiddorol."
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi a chyllid adfywio Llywodraeth Cymru, Tasglu'r Cymoedd, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Tref Maesteg, y Sefydliad Garfield Weston a'r Ymddiriedolaeth Davies.