Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cefnogaeth i fasnachwyr yn parhau wedi i’r farchnad dan do orfod cau oherwydd RAAC

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi darparu diweddariad ynglŷn â’i ymdrechion diweddaraf i gefnogi masnachwyr wedi i Farchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr gau dros dro.

Roedd rhaid i’r farchnad gau ei drysau er diogelwch y cyhoedd wythnos ddiwethaf, wedi i arolwg gan arbenigwr cymeradwy o Lywodraeth Cymru gadarnhau problem posibl yn ymwneud â Choncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) mewn rhannau o do’r neuadd farchnad.

Darparodd y cyngor gyfleusterau storio eraill, gan gynnwys oergell a rhewgell diwydiannol, a derbyniodd deiliaid stondinau gefnogaeth brys i’w helpu o ran cofnodi ac ail-leoli stoc. Bu i'r cyngor hefyd ddiddymu’r taliadau rhent ar gyfer y stondinau yr effeithiwyd arnynt, a'u heithrio rhag talu ardrethi busnes yn gyfan gwbl.

Ers hynny, mae’r cyngor wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid megis Canolfan Siopa y Rhiw, timau diogelwch bwyd, safonau masnach ac iechyd amgylcheddol y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Busnes Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a Cyngor ar Bopeth, er mwyn cynnig arweiniad a chymorth ychwanegol i fasnachwyr.

Mewn partneriaeth â Chanolfan Siopa y Rhiw, mae gwaith ar y gweill er mwyn prydlesu hyd at dair uned wag er defnydd masnachu dan do dros dro i’r rheiny fydd ei angen. Bydd hyn yn darparu lleoliad amgen ar gyfer masnachwyr bwyd, tra hefyd yn galluogi masnachwyr cynnyrch heblaw bwyd i rannu lleoliad mwy.

Ar yr un pryd, mae'r cyngor wrthi’n cefnogi masnachwyr sydd yn dymuno dod o hyd i leoliad arall y tu hwnt i Ganolfan Siopa y Rhiw, ac yn eu cynghori ynglŷn â’r grantiau a chyllid sydd ar gael.

Mae Canolfan Siopa y Rhiw hefyd wedi cytuno i ganiatáu i fasnachwyr y farchnad godi stondinau dros dro o flaen mynedfa’r farchnad ar ddyddiau Gwener, er mwyn iddynt allu hyrwyddo eu lleoliad dros dro.

Rydym mewn cysylltiad parhaus gyda'r cyngor, ac maent yn ein helpu i symud ein busnesau i unedau gwag yng nghanolfan y Rhiw. Yn amlwg, bydd hyn yn cymryd amser.

Yn y cyfamser, bydd rhai o'r stondinau yn cynnal marchnad wythnosol ar ddyddiau Gwener yng nghanolfan y Rhiw, a bydd hynny’n rhoi cyfle i ni roi sicrwydd i’r cyhoedd ein bod yn parhau i fasnachu. Mae’r cyngor wedi bod yn help mawr, ac maent yn rhoi cymaint o gymorth â phosib i ni dan yr amgylchiadau anodd hyn.

Eileen Schofield, y masnachwr sy’n rhedeg y stondin dan do Cookmate

Rydym yn parhau i wneud cymaint ag y gallwn i gefnogi deiliaid stondinau’r farchnad dan do y mae'r datblygiad anffodus hwn wedi effeithio arnynt. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau eu bod yn gallu dychwelyd i fasnachu cyn gynted â phosib, yn enwedig wrth i ni nesáu at y cyfnod o siopa ar gyfer y Nadolig. Yn ychwanegol i’r gefnogaeth yr ydym eisoes wedi'i chynnig, rydym hefyd wedi comisiynu arolwg arbenigol pellach i asesu maint a difrifoldeb y broblem RAAC, ac i ganfod a yw'n bosib atgyweirio'r mannau dan sylw, neu a fydd angen eu newid yn gyfan gwbl.

Mae hyn wedi cadarnhau bod y broblem â’r concrit awyredig wedi effeithio ar baneli concrit sy’n ffurfio rhan o system gynnal y to, ac nid y to ei hun, lle cwblhawyd gwaith diweddar i wella awyriad a goleuni naturiol o fewn neuadd y farchnad. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi cryn dipyn o fewn Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr, gan cynnwys gosod toiledau cyhoeddus, system aerdymheru newydd, creu sgwâr canolog ar gyfer digwyddiadau arbenigol, ail-ddylunio'r farchnad i’w gwneud yn fwy deniadol i siopwyr, a mwy.

Er hyn, a’r anawsterau a achoswyd gan orfod cau’r farchnad dros dro, ni allwn roi’r cyhoedd mewn perygl, yn amlwg. Yn hytrach, byddwn yn parhau i wneud cymaint ag y gallwn i gefnogi masnachwyr a sicrhau y gall y farchnad dan do ailagor mor fuan ag y mae’n ddiogel i wneud hynny.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Chwilio A i Y