Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cadw’r fwrdeistref sirol yn symud dros y gaeaf

Wrth i'r dyddiau fyrhau a'r tywydd droi'n oerach, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynlluniau ar waith i gynorthwyo trigolion lleol ac i gadw'r fwrdeistref sirol yn symud dros fisoedd y gaeaf.

Gyda mwy na 790km o ffyrdd wedi’u lleoli ledled bwrdeistref y sir, mae Cynllun Cynnal a Chadw Gaeaf y cyngor yn nodi sut y bydd gweithwyr yn rhoi halen ar ffyrdd, yn clirio eira ac yn cadw traffig i symud yn ystod tywydd oerach a phan fydd y tymheredd yn gostwng.

Mae'r cynllun yn nodi llwybrau blaenoriaeth ac yn ystyried canolfannau ar gyfer gwasanaethau argyfwng, llwybrau bysiau, pentrefi ynysig, strydoedd ar lethrau serth, ardaloedd diwydiannol a siopa, ysgolion a mynediad at fynwentydd, meddygfeydd a chartrefi gofal. Mae hefyd yn amlinellu ffyrdd eilradd yr ymdrinnir â hwy ar ôl i'r prif rwydwaith priffyrdd gael eu trin.

Mae'r cyngor yn paratoi drwy storio mwy na 5,000 tunnell o halen ac mae ganddo gynlluniau ar waith ar gyfer ailgyflenwi stociau yn ogystal â threfniadau ag awdurdodau cyfagos i roi a derbyn cymorth yn ystod pyliau hir o dywydd garw yn y gaeaf.

Mae'r cyngor yn derbyn rhagolygon y tywydd penodol yn ymwneud â thir uchel mewndirol, tir isel mewndirol ac ardaloedd arfordirol i adlewyrchu cymysgedd daearyddol amrywiol o gymoedd ac arfordir bob dydd.

Yn ogystal, mae’r cyngor yn cynnal pum gorsaf dywydd anghysbell mewn gwahanol leoliadau ledled y fwrdeistref sirol. Mae'r rhain yn defnyddio offer fel synwyryddion iâ i ddarparu ystod o wybodaeth i'r awdurdod gan gynnwys amodau atmosfferig a thymheredd arwyneb ffyrdd lleol, sydd oll yn cael eu defnyddio i ragfynegi amodau’r tywydd sy’n debygol o fod, ac a oes angen gweithredu ymhellach.

Pan fydd y tymheredd yn gostwng, mae’r awdurdod yn rhag-drin y rhannau mwyaf cyffredin o’r rhwydwaith ffyrdd â halen craig gronynnog i atal rhew rhag ffurfio, a gall alw ar nifer o gerbydau a ddyluniwyd yn arbennig fel graeanwyr i gadw ffyrdd yn glir.

Mae halltu ar y ffyrdd yn dibynnu ar nifer o ffactorau megis tamprwydd a lleithder. Pan mae tymheredd yn disgyn islaw -10 gradd, nid yw halen ffordd yn gweithio mwyach. Mae'r cyngor yn ofalus iawn ynghylch pryd a sut mae'n halltu ffyrdd - ni fyddech fyth yn gweld e.e. graeanwr yn taenu halen ar ben eira ffres gan nad yw mor effeithiol.

Unwaith mae eira wedi syrthio, mae'n rhaid clirio llwybrau gydag erydr cyn y gellir eu trin. Ar gyfer ardaloedd i gerddwyr, mae'r cyngor yn defnyddio offer arbenigol i chwistrellu heli, toddiant halwynog sy’n helpu i feirioli iâ, ac mae gweithwyr hefyd yn clirio eira â llaw ac yn defnyddio chwythwyr eira.

Rhyngddynt, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chynghorau cymunedol lleol yn darparu tua 400 o finiau halen a graean ledled y fwrdeistref sirol. Mae'r rhain fel arfer wedi’u lleoli ar hyd ffyrdd preswyl a mân lwybrau eraill, yn enwedig lle gallai fod cyffyrdd neu fryniau serth.

Cyn dechrau pob tymor gaeaf, caiff y biniau eu llenwi â chymysgedd o halen a thywod miniog sydd ar gael i’w ddefnyddio gan breswylwyr a modurwyr i’w gwneud hi’n haws teithio drwy strydoedd lleol pan fydd yr amodau’n dirywio. 

Mae gan y cyngor gynlluniau ar waith hefyd ar gyfer gwasanaethau rheng flaen eraill fel Gofal Cartref ac ailgylchu ar garreg y drws a chasgliadau sbwriel, a gall rhieni a disgyblion wirio am gau ysgolion oherwydd tywydd garw ar dudalen we bwrpasol.

Gall tywydd garw effeithio ar lyfrgelloedd, canolfannau hamdden, pyllau nofio ac adeiladau eraill, ac er bod y cyngor a’i bartneriaid yn gwneud pob ymdrech i gadw cyfleusterau ar agor, nid yw bob amser yn bosibl gwneud hynny, yn enwedig os na all staff gyrraedd eu gwaith. Mewn sefyllfaoedd lle mae angen cau, nod yr awdurdod yw sicrhau mai dros dro yn unig fydd hyn a dychwelyd i ailddechrau gwasanaeth arferol yn gyflym ac yn ddiogel.

Mae Cynllun Cynnal a Chadw Gaeaf y cyngor yn sicrhau bod yr awdurdod wedi paratoi’n dda ar gyfer tywydd garw, a gall preswylwyr fod yn sicr y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i leihau aflonyddwch ac anghyfleustra a achosir gan dywydd garw’r gaeaf.

Tra bod rhai digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, mae staff y cyngor yn gweithio bob awr, yn aml o dan amodau ofnadwy, i ddarparu gwasanaethau a chadw'r fwrdeistref sirol yn symud.

Ar gyfer y wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf ewch i'n tudalen we tywydd gaeafol, sy’n cynnig digon o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys atebion i gwestiynau cyffredin.

Chwilio A i Y