Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cadarnhau cyfleuster Metrolink newydd i Borthcawl

Bydd Porthcawl yn elwa o gyfleuster Metrolink newydd sbon wedi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gytuno i gynyddu'r arian a fydd yn sicrhau na fydd angen lleihau'r prosiect er mwyn ei gyflawni.

Gan ddefnyddio arian o gronfa'r Metro Link sydd wedi ei ddarparu fel rhan o fargen ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a chronfa Adfywio Porthcawl y cyngor ei hun, mae cyfanswm o £3.8m yn cael ei fuddsoddi nawr i ddarparu'r cyfleuster gorau bosibl wrth hefyd fodloni costau marchnata cynyddol sy'n gysylltiedig â'r cynllun.

Wedi ei leoli yng nghanol yr ardal adfywio ar hyd Portway a Llyn Halen, bydd y Metrolink yn ffurfio rhan o'r rhaglen Metro Plus ehangach, sydd yn ceisio gwella cysylltiadau cludiant cyhoeddus ar draws de ddwyrain Cymru.

Gyda'r gallu i ddarparu hyd at bedwar bws ar unwaith, bydd yn cynnwys caban aros dan do ac adeilad gorsaf, lle ar gyfer ciosg a'r posibilrwydd o gyfleuster llogi beics, mannau eistedd yn yr awyr agored, to 'gwyrdd' ystyrlon o’r amgylchedd, a gardd law a mwy.

Er mai Porthcawl yw'r drydedd dref fwyaf yn y fwrdeistref sirol, nid oes ganddi gyfnewidfa cludiant cyfoes ar hyn o bryd. Bydd y cyfleuster Metrolink newydd hwn yn cynnig mynediad effeithlon a chyflym i mewn ac allan o'r dref, a bydd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn siŵr o elwa.

Fel un o'n trefi mwyaf, mae Porthcawl angen cyfnewidfa cludiant cyfoes y gall trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd elwa ohono, a bydd hyn yn sicrhau y gallwn ddarparu'r cyfleuster Metrolink gorau bosibl.

Dim ond oherwydd ein rôl o fewn y bartneriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y mae hyn wedi bod yn bosibl, ac rwyf wrth fy modd yn gweld sut mae wedi ein galluogi i wneud y mwyaf o'r cyllid ar gyfer y prosiect pwysig a mawr ei angen hwn.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David:

Chwilio A i Y