Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cytuno ar 'gamau cyntaf tuag at wasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd'

Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i archwilio cynlluniau uchelgeisiol newydd ar sut i ddelio â chasglu gwastraff cartref ac ailgylchu yn y dyfodol.

Ymhlith yr amrywiaeth o opsiynau sy'n cael eu hystyried mae cynyddu'r nifer o ddeunyddiau gwahanol y gellir eu hailgylchu, gwella dulliau casglu, cyflwyno fflyd newydd o gerbydau casglu glanach a mwy gwyrdd sy'n cynhyrchu llai o allyriadau a mwy.

Bydd yr awdurdod yn archwilio materion megis a ddylid cynnig y contract i gwmnïau allanol, mewnol neu o bosib ei ddarparu fel rhan o bartneriaeth gydag awdurdodau lleol cyfagos.

Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei gontractio i Kier Services Limited ar hyn o bryd, wedi cael ei drosglwyddo i weithredwyr allanol ers 2003, ac yn cael ei adnewyddu bob saith mlynedd.

Mae'r contract presennol yn dod i ben 31 Mawrth 2024, ac mae cwmni Kier wedi cadarnhau eu bwriad i adael y farchnad gwastraff er mwyn canolbwyntio ar feysydd busnes eraill, ac nad oes ganddynt gynlluniau i gyflwyno tendr i barhau i gynnig y gwasanaeth.

Fodd bynnag, nid yw targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol wedi eu cyhoeddi eto, a bydd gofynion deddfwriaethol newydd a fydd yn effeithio ar unrhyw wasanaeth newydd yn sicr o ddod.

Er mwyn sicrhau bod digon o amser i'r trefniadau newydd ystyried y ffactorau pwysig yma, mae aelodau'r Cabinet wedi cytuno i edrych ar holl opsiynau ôl-Mawrth 2024, gan gynnwys p'run ai i fynd allan i dendr ar gyfer cytundeb dwy flynedd posib fel mesur dros dro.

Byddai hyn yn sicrhau y gall gwasanaeth ailgylchu a gwastraff cartref barhau yn y cyfamser tra bod yr awdurdod yn datblygu ei gynlluniau tymor hirach.

Dyma nodi'r camau cyntaf yn natblygiad gwasanaeth ailgylchu a gwastraff cwbl newydd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Byddai'r trefniant dros dro hwn yn berthnasol ar gyfer y cyfnod hyd at 2026, ac yn sicrhau bod gwasanaethau casglu gwastraff yn parhau yn ystod y tymor byr tra bo'r cyngor yn ystyried y darlun cenedlaethol newydd yn llawn, ac yn ei ddefnyddio i lunio model y gwasanaeth tymor hir newydd.

Mae'n golygu y bydd gan yr awdurdod ddigon o amser i sicrhau bod unrhyw wasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd yn gallu cyflawni ei dargedau tra'n darparu'r buddion gorau bosib ar gyfer y cyngor a thrigolion lleol, tra'n caniatáu i ymgynghoriad cyhoeddus trylwyr gael ei gynnal ar unrhyw newidiadau arfaethedig yn y modd y gall y gwasanaeth weithredu yn y dyfodol.

Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick

Bydd swyddogion y cyngor yn dechrau archwilio'r opsiynau sydd ar gael ac yn darparu adroddiadau pellach a diweddaru'r Cabinet wrth i'r cynigion ddatblygu.

Chwilio A i Y