Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Twristiaeth rhwng 2022 a 2027 ar gyfer y fwrdeistref

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu penderfyniad ei Gabinet i gymeradwyo'r Cynllun Rheoli Cyrchfan (DMP) rhwng 2022 a 2027, yn amlinellu sut caiff twristiaeth o fewn y fwrdeistref sirol ei rheoli er mwyn cyflawni ei photensial yn ystod y cyfnod hwn.

Mae diwydiant twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno refeniw amhrisiadwy i'r economi leol, ac o ganlyniad, yn cyfrannu at ffyniant lleol ac ansawdd bywyd.

Yn ôl data o'r Model Gweithgaredd Economaidd Twristiaeth Scarborough, yn 2019 (y flwyddyn lawn olaf cyn y Pandemig Covid-19), amcangyfrifwyd bod twristiaeth yn cynnig budd economaidd gwerth £363 miliwn i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Yn ogystal â hynny, roedd y diwydiant yn gyfrifol am greu dros 4,000 o swyddi, yn ogystal â chefnogi gwasanaethau ac isadeiledd fel cysylltiadau trafnidiaeth, amrywiaeth o siopau a gwasanaethau, cyfleusterau diwylliant a chwaraeon – gyda phob un ohonynt wedi bod o fudd i’r gymuned leol.  

Ers y DMP diwethaf, mae newidiadau sylweddol wedi'u gwneud ar lefelau byd-eang, cenedlaethol a lleol - yn benodol y pandemig Covid-19, Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â'r cynnydd mewn costau byw. Mae'r rhain i gyd wedi effeithio ar y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch.

Mae'r DMP diwethaf yn mynd i'r afael â materion gyda chynllun adfer - mae hyn yn cynnwys ffrydiau cyllid ychwanegol, prosiectau amwynderau cyhoeddus, diweddariadau seilwaith a chefnogaeth ar gyfer y sector lletygarwch. 

Bydd llwyddiant y cynllun yn dibynnu'n fawr ar y bartneriaeth gwaith rhwng y cyngor a rhanddeiliaid allweddol, fel cynghorau tref a chymuned, busnes lleol, yn ogystal â'r gymuned. Bydd y cyngor hefyd yn cydweithio â Croeso Cymru, cyrff rhanbarthol fel Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd, yn ogystal ag awdurdodau cyfagos.

O ganlyniad i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymchwil, mae'r CMP, 2022-2027, yn ymwneud â'r fframwaith llywodraethu er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben yng nghyd-destun trefniadau llywodraethu Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol.

'Rydym wedi ein calonogi’n fawr gan y Cynllun Datblygu Cyrchfan newydd. Ar ôl cyfnod heriol, rydym yn edrych ymlaen at fabwysiadu'r cynllun er mwyn sicrhau bod diwydiant twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu codi ar ei draed eto, ond mewn ffordd gynaliadwy a rheoledig.

Caiff gweledigaeth y cynllun hwn ei chefnogi gan nodau sy'n alinio â nodau Croeso Cymru, sy'n cynnwys creu twf economaidd, hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, yn ogystal â chynnig cyfoethogi diwylliannol. Rydym yn croesawu buddsoddiad i ddiwydiant twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn edrych ymlaen at brofi popeth sydd ganddo i'w gynnig.

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y