Cabinet yn cymeradwyo ymestyn Gwarchodfa Natur Leol Frog Pond Wood
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu penderfyniad y Cabinet i ganiatáu’r gwaith o ymestyn Gwarchodfa Natur Leol Frog Pond Wood i fynd rhagddo.
Mae'r warchodfa natur, ger Ystâd Ddiwydiannol Village Farm y Pîl, eisoes wedi'i hymestyn i gynnwys tir a elwir yn 'Dôl Village Farm'.
Gyferbyn â hyn mae llain arall o dir sydd wedi'i chytrefu’n naturiol dros ddeng mlynedd ar hugain, ac sydd wedi datblygu i fod yn goetir cymysg. Mae'r broses organig hon yn rhoi gwerth ecolegol sylweddol i'r tir, yn ogystal ag ychwanegu at wytnwch ecolegol Gwarchoda Natur Leol Frog Pond Wood o fewn y dirwedd o'i hamgylch.
Nid oes angen y llain o dir hanner erw hon, sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, at ddibenion economaidd mwyach, ac felly mae'n gwneud synnwyr ei chynnwys fel rhan o'r warchodfa natur, lle gellir amddiffyn a gwella bioamrywiaeth yr ardal.
Wrth ymestyn y warchodfa, mae'r cyngor yn ymrwymo i ddiogelu'r ardal hon rhag defnydd neu ddatblygiad anaddas, yn ogystal â rheoli'r coetir ac unrhyw rywogaethau ymledol sy'n bodoli yno.
Dyma gyfle gwych i'r cyngor groesawu a rheoli bioamrywiaeth o fewn yr ardal ymhellach, yn ogystal â'i amddiffyn.
Mae hefyd yn wych bod Gwarchodfa Natur Leol Frog Pond Wood yn annog cysylltiadau â mentrau eraill fel Rhwydwaith Natur Cwm Taf. Mae hwn yn brosiect wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n rhan o'r Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant - yn uno natur, trigolion lleol, cymunedau a busnes.
Mae cysylltiadau hefyd wedi'u gwneud gyda'r Prosiect Cysylltiadau Gwyrdd - menter gan Plantlife, elusen gadwraeth yn y DU – sy'n cynorthwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i hyrwyddo gwarchodfeydd natur lleol.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau