Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cymeradwyo trosglwyddo cyfrifoldeb am ofal a chymorth carcharorion i'r cyngor

Gan fod trefniadau cytundebol gyda Gwasanaethau Iechyd G4S ar fin dod i ben, mae'r Cabinet wedi cymeradwyo'r cyngor i ymgymryd â'r gwaith uniongyrchol o reoli cyfrifoldebau gofal cymdeithasol carcharorion CEM Parc, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Er bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn mynd i'r afael â'r gwaith o ddarparu'r holl wasanaethau iechyd yn CEM Parc, nid yw'n gallu cynnig gofal cartref. Felly, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fydd y darparwr gofal cartref cofrestredig.

Disgwylir i hyn ddod i rym fis Rhagfyr 2022, ac mae'n bosibl y bydd staff gofal sydd wedi'u cyflogi gan G4S y cael eu trosglwyddo i gyflogaeth gyda'r cyngor, a fydd yn sicrhau ein bod yn cadw gafael ar weithwyr medrus a gwybodus – yn dilyn ymgynghoriad sy'n cynnwys y partïon hynny dan sylw. 

Mae darpariaeth gofal CEM Parc yn cyflwyno ffordd wahanol o weithio ar gyfer staff gofal, yn bennaf oherwydd y cyfyngiadau diogelwch sydd ar waith. Wrth ystyried hyn, argymhellir lleoli'r tîm cymorth yn CEM Parc yn barhaol. 

Awgrymwyd hefyd y dylai bod tîm wrth gefn, sydd eisoes wedi ymgymryd â'r broses glirio diogelwch uwch, ar gael i gyflenwi staff yn ystod cyfnodau o absenoldeb wedi'i drefnu a chyfnodau o absenoldeb annisgwyl, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn cael ei chyflwyno'n ddidrafferth. 

Yng ngoleuni'r amodau newydd hyn, bydd y trefniadau cytundebol rhwng y cyngor a G4S yn cael eu hadolygu.

Byddwn yn croesawu'r cyfrifoldeb o gyflwyno gofal a chymorth cymdeithasol o safon i garcharorion CEM Parc.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn arbenigo mewn bodloni newid, a bydd yn parhau i arddangos hyn drwy ddarparu gofal cymdeithasol yn yr amgylchedd cymhleth a heriol hwn.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, Jane Gebbie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Chwilio A i Y