Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cymeradwyo polisi i fynd i'r afael ag ymddygiad afresymol tuag at staff

Mae'r cabinet wedi cymeradwyo polisi diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fynd i'r afael ag ymddygiad afresymol, yn cynnwys ymddygiad achwynwyr blinderus, gan aelodau o'r cyhoedd.

Er ei fod yn gadarnhaol gan amlaf, mae cyswllt â'r cyhoedd yn gallu bod yn heriol ar adegau.  Yn ystod y 12 mis diwethaf, dim ond 0.9 y cant o achwynwyr a farnwyd fel rhai blinderus - cysylltodd un o'r achwynwyr â'r cyngor dros 2,500 o weithiau dros gyfnod o dri mis er gwaetha'r ffaith fod y mater a godwyd eisoes wedi ei ddatrys. Roedd y swm sylweddol o amser y swyddog a'r aelod a ddefnyddiwyd yn y sefyllfa hon yn andwyol i'r gwasanaeth y mae'r cyngor yn ceisio ei ddarparu.

Nid cwynion yw'r unig ymddygiad afresymol tuag at staff y cyngor ac fe all fod yn fygythiad o drais neu gam-driniaeth yn ogystal â thrais neu gam-driniaeth ynddo'i hun.

Mae polisi sy'n ymdrin ag ymddygiad o'r fath yn cynnig cysondeb ymysg gweithwyr, yn ogystal â chynorthwyo swyddogion i gael dealltwriaeth glir o'r hyn a ddisgwylir, pa opsiynau sydd ar gael a phwy all awdurdodi'r gweithredoedd hyn.

Mae'r cyngor wedi ymrwymo i ymateb yn agored a thryloyw i bob cwyn. Fodd bynnag, mae gan staff yr awdurdod lleol yr hawl i deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu gwaith, ac mae gennym werthoedd clir sydd ddim yn goddef ymddygiad afresymol neu dreisgar.

Mae 99.1 y cant o gwynion yn rhesymol, ond yn anffodus, mae yna nifer fach o achwynwyr sy'n trin ein staff yn afresymol.

Mae delio ag ymddygiad achwynwyr blinderus o'r fath yn defnyddio adnoddau ac yn tynnu cymorth oddi wrth faterion eraill. Bydd y polisi hwn yn golygu y bydd modd rheoli'r achwynwyr hyn yn fwy effeithiol.

Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Chwilio A i Y