Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cymeradwyo newidiadau i gontract adeiladu yn Cosy Corner Porthcawl

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu cymeradwyaeth ei Gabinet i addasu’r contract adeiladu ar gyfer gwaith yn Cosy Corner, Porthcawl.

Mae cynlluniau ar gyfer y safle’n cynnwys llu o nodweddion cyfoes, sy’n amrywio o gyfleusterau cymunedol, man ar gyfer unedau masnach, darpariaethau gwefru ar gyfer defnyddwyr y marina cyfagos, i ardaloedd chwarae awyr agored i blant, a mwy.  Mae’r nodau hyn ar gyfer yr ardal wedi’u hwyluso gan gyllid ychwanegol gwerth £1m gan Lywodraeth Cymru.

Mae cynnydd ariannol ar gyfer y contract adeiladu wedi’i bennu fel un angenrheidiol er mwyn bodloni’r cynlluniau ar gyfer y datblygiad newydd, yn ogystal â chael gwared ar asbestos a ddarganfyddwyd ar y safle ar ôl cynnal asesiadau manwl o gyflwr y tir.

Rydym wedi ymrwymo i adfywio ardal Porthcawl a gwireddu potensial yr ardal honno.

Pleser yw dweud bod y cynlluniau amlinellol ar gyfer y safle, yn ogystal â chael gwared ar y tir halogedig yn ddiogel, i gyd yn bosibl o fewn dyraniad y rhaglen gyfalaf.

Gallwn eich sicrhau mai llesiant y gymuned yw ein blaenoriaeth bob amser. Bydd datblygu’r Cosy Corner yn sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn parhau i elwa o’r ardal am flynyddoedd i ddod.

Cynghorydd Neelo Farr, y Gweinidog Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y