Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cymeradwyo gwaharddiad ar gynnig anifeiliaid byw fel gwobrau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwahardd defnyddio anifeiliaid byw fel gwobrau ar gyfer yr holl ddigwyddiadau a gynhelir ar dir sy'n eiddo i'r cyngor, fel rhan o'i ymdrechion parhaus i gyflawni'r safonau gorau o les anifeiliaid.

Mae'r gwaharddiad hefyd yn nodi ymrwymiad yr awdurdod tuag at gefnogi ymgyrch #NoFunAtTheFair yr RSPCA, sy'n galw am newid mewn deddfwriaeth yn y DU i atal anifeiliaid rhag cael eu defnyddio fel gwobrau.

Golyga hyn mai'r cyngor yw'r awdurdod lleol diweddaraf yng Nghymru i ymuno â'r ymgyrch gyfochr ag awdurdodau lleol eraill, gan gynnwys cyngor Caerffili, Conwy, Casnewydd, Wrecsam a Bro Morgannwg.

Mae ymgyrch 'Pets as Prizes', #NoFunAtTheFair, wedi'i thargedu'n bennaf at roi pysgod aur i bobl mewn ffeiriau. Mae'r defnydd o fagiau plastig anaddas yn golygu bod y pysgod yn debygol o ddioddef sioc a diffyg ocsigen, neu hyd yn oed farwolaeth oherwydd newid mewn tymheredd dŵr. 

Er mai dim ond drwy newid deddfwriaeth y gellir gwahardd cynnig anifeiliaid anwes fel anrhegion yn llwyr, mae'r RSPCA yn gofyn i gynghorau ledled y wlad ymuno â'u hymgyrch, a gwahardd y weithred hon, gyda'r gobaith y bydd yn annog Llywodraeth y DU i ddeddfu yn ei erbyn.

Mae RSPCA Cymru yn falch iawn mai Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yw'r awdurdod lleol diweddaraf i wahardd rhoi anifeiliaid anwes fel gwobrau ar eu tiroedd. Mae hyn yn newyddion gwych i bysgod aur, ac anifeiliaid eraill ledled yr ardal leol. Mae angen paratoi i gael anifail anwes, ac mae cynnig anifail anwes fel gwobr yn mynd yn erbyn hynny'n llwyr.

Mae miloedd o'n cefnogwyr wedi annog eu Cyngor i gefnogi ymgyrch yr RSPCA a mynd i'r afael â'r broblem hon yn lleol. Gobeithiwn y bydd nifer o awdurdodau lleol yn dilyn Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn cymryd y cam pwysig hwn.

Rydym hefyd yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gyflwyno gwaharddiad ar yr arfer hwn ledled Cymru yn y pen draw.

David Bowels, pennaeth materion cyhoeddus yr RSPCA

Mae'r Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir (SRS), sy'n darparu  swyddogaethau lles ac iechyd anifeiliaid ar ran cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, yn gweithio'n agos gyda'r RSPCA, ac asiantaethau eraill, ym meysydd megis atal a rheoli clefydau anifeiliaid , trwyddedu, gwasanaethau cŵn ar grwydr, magu cŵn a mwy, er mwyn sicrhau bod y safonau gorau o les ac iechyd anifeiliaid yn cael eu cynnal ar draws y rhanbarth.

Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi'r RSPCA gyda'r ymgyrch hon, a gobeithiwn y bydd yn helpu'r elusen i ddod gam yn agosach at gyflawni ei thargedau, sef perswadio Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr arferiad hwn yn aros yn y gorffennol.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i gynnal y safonau gorau o les anifeiliaid ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae ymdrechion yr SRS wedi'u cydnabod yn hynny o beth.

I gydnabod eu rôl mewn cyd-ymgyrch a lwyddodd i achub 240 o geffylau yn ddiweddar, cawsant wobr partneriaeth gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Yng ngwobrau Paw Prints 2022, cafodd yr RSPCA ei hun gyflwyno dwy wobr aur ac un efydd i'r tîm am ei waith yn delio â chŵn ar grwydr, trwyddedu anifeiliaid a chynelu.

Y tîm SRS oedd yr unig wasanaeth yng Nghymru i gyflawni safon aur mewn trwyddedu anifeiliaid eleni, felly hoffwn eu llongyfarch ar eu llwyddiant, a diolch iddynt am eu hymrwymiad parhaus.

Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant

Chwilio A i Y