Cabinet yn blaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 23 Tachwedd 2022
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i ymestyn cysylltiadau'r cyngor â Chynghorau Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf wrth gyflwyno'r gwasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol ac Ymweliadau Annibynnol rhanbarthol - gwasanaeth statudol ar gyfer plant a phobl ifanc cymwys.
Bydd y Cytundeb Rhyng-Awdurdod hwn yn parhau am o leiaf 12 mis arall o fis Ebrill 2023, ynghyd â'r contract gyda'r darparwr gwasanaeth, Tros Gynnal Plant Cymru.
Mae rheolau comisiynu arferol wedi'u gohirio er mwyn parhau â'r estyniad hwn. Mae hyn oherwydd bod Llywodraeth Cymru'n adolygu'r offeryn a ddefnyddir yn y broses o gaffael eiriolaeth plant, ac felly nid yw ar gael ar hyn o bryd. Yn ystod cyfnod yr estyniad, gydag offeryn comisiynu Llywodraeth Cymru ar gael eto, bydd ymarfer ail-dendro'n cael ei gynnal.
Fel arfer, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi blaenoriaethu llesiant plant a phobl ifanc yn fwy na dim. Yn yr achos hwn, mae'n hanfodol ymestyn yr holl gontractau presennol er mwyn sicrhau parhad y cysylltiadau cefnogol a sefydledig hynny ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc.
Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, gyda Tros Gynnal Plant Cymru fel y darparwr gwasanaeth eiriolaeth rhanbarthol, mae cysylltiadau wedi'u meithrin yn lleol, yn ogystal â rhai rhanbarthol, ac mae'n hanfodol bod y cysylltiadau hyn yn cael eu cynnal
Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar