Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bwyty lleol yng nghanol achos erlyn hylendid bwyd

Ar ôl ymchwiliad gan y Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir (SRS), cafodd dau gyfarwyddwr a oedd ynghlwm â gweithredu’r bwyty Swaddesh ym Mynydd Cynffig eu dedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ar 27 Tachwedd.

Ar 4 Hydref, plediodd Mohammed Imon Rahman a Mustak Ahmed yn euog i wyth trosedd dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.
Ym mis Mai 2022, derbyniodd SRS gŵyn o'r cyhoedd yn adrodd bod llygod mawr wedi’u gweld ym mwyty Swaddesh, a oedd, ar yr adeg, yn meddu ar sgôr tri yn y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, gan nodi bod y safonau hylendid yn foddhaol.

Pan aeth swyddogion i ymweld â’r lleoliad, gwnaethant ganfod pla gweithredol gyda diffyg gweithdrefnau rheoli plâu effeithiol nodweddiadol ar waith.
Canfu baw llygod mawr yn ystafell fwyta blaen y bwyty, yn y storfeydd cefn, lle'r oedd offer bwyd ac eitemau bwyd agored, fel tatws a nionod, yn cael eu storio - yn cyflwyno risg uchel o halogiad uniongyrchol.

Dylai pwyntiau mynediad plâu a ddarganfuwyd gan swyddogion fod wedi cael eu nodi drwy wiriadau rheoli plâu arferol.
Roedd glendid a hylendid cyffredinol y lleoliad hefyd yn wael, gyda darnau o fwyd a budreddi i’w weld dan yr offer, yn ogystal ag arwynebau cyswllt dwylo budr.

Canfuwyd nad oedd offer paratoi bwyd yn lân, a bod rhai offer, fel byrddau torri, wedi’u gwisgo’n sylweddol a’u difrodi, ond yn dal i gael eu defnyddio gan staff.

Agwedd arall a oedd yn bryder penodol oedd y diffyg rheolaethau ar waith ar gyfer hylendid personol.

Roedd y busnes yn trin bwydydd amrwd, fel cyw iâr a chig oen, ynghyd â bwydydd parod i’w bwyty, fel saladau ffres.

Nid oedd unrhyw sebon i olchi dwylo yn y brif gegin na thoiledau’r staff, dim ond diheintydd dwylo - a oedd yn arddangos diffyg dealltwriaeth staff o'r risg a berir i ddiogelwch bwyd.

Roedd yn amlwg nad oedd unrhyw systemau diogelwch rheoli bwyd ar waith.
O ganlyniad i ganfyddiadau’r arolwg, cafodd sgôr Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd y bwyty ei israddio i sero, gan nodi bod angen gwelliannau brys.

Yn sgil canfyddiadau'r arolygiad, caeodd y busnes yn wirfoddol er mwyn ymgymryd â gwaith glanhau trylwyr ar y safle, trwsio pob pwynt mynediad pla, a chael gwared ar y pla.

Pan ddychwelyd chwe diwrnod yn ddiweddarach, canfuwyd bod y busnes wedi gwneud gwelliannau sylweddol a bod y pla llygod mawr wedi'u dileu.

Fodd bynnag, nid oedd sebon golchi dwylo ar y safle o hyd - dim ond ar ôl ail-lenwi cyflenwadau sebon a ddiddymwyd yr hysbysiad cau gwirfoddol.

Ar adeg y troseddau, roedd y busnes bwyd yn cael ei weithredu gan ddau gwmni:

Swaddesh Dinner Limited, yr oedd Mohammed Imon Rahman yn Gyfarwyddwr , a SR 72 Limited, yr oedd Mustak Ahmed yn Gyfarwyddwr .
Cafodd yr ymchwiliad ei gymhlethu gan honiadau bod Mr Ahmed a'i gwmni wedi cymryd cyfrifoldeb am redeg y busnes gan Mr Rahman, gyda'r olaf yn nodi ei hun i ddechrau fel rheolwr y bwyty yn unig.

Yn yr achos llys, ystyriodd y Barnwr Rhanbarth Harmes y ffaith bod Mr Rahman a Mr Ahmed wedi dangos tystiolaeth bod y ddau ohonynt ar fudd-daliadau, a hefyd wedi rhoi clod i’r ddau ohonynt am bledio’n euog.

O ganlyniad, cafodd Mustak Ahmed ddirwy gwerth £235 (gan gynnwys credyd) a gorchmynwyd iddo dalu costau gwerth £125, yn ogystal â gordal dioddefwr gwerth £95.
Cafodd Mohammed Imon Rahman ddirwy gwerth £380 (gan gynnwys credyd) a gorchmynwyd iddo dalu costau gwerth £250, yn ogystal â gordal dioddefwr gwerth £152.
Mae ei ddedfryd hefyd wedi ei wahardd yn barhaol rhag cymryd rhan yn y gwaith o reoli unrhyw fusnes bwyd yn y dyfodol.

Dywedodd y Barnwr Rhanbarth Harmes ei bod yn amlwg bod pla cnofilod gweithredo l wedi bod ym mwyty Swaddesh, a oedd yn peri risg bosibl i'r cyhoedd.
Aeth ymlaen i ddweud bod y person a oedd yn amlwg yn gyfrifol am y busnes oedd Mr Rahman, er bod modd dweud bod olion bysedd Mr Ahmed ar y busnes hefyd.

Nid oedd cosb ar wahân i’r naill gwmni na’r llall, y Swaddesh Dinner Limited nac SR 72 Limited, gyda’r Barnwr Rhanbarth Harmes yn nodi nad oedd yr un o’r ddau’n masnachu mwyach, a bod y bwyty bellach wedi cau.

Ar ôl yr achos llys, dywedodd y CYnghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio, a Chadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod ein safonau hylendid bwyd yn parhau’n uchel ar draws y fwrdeistref sirol. Mae hyn yn hanfodol er budd llesiant trigolion ac ymwelwyr, er mwyn diogelu enw da’r busnes bwyd sy’n ufudd i’r gyfraith ar gyfer busnesau yn y maes hwn.

Rydym yn croesawu'r dirwyon a osodwyd ar y ddau gyfarwyddwr sy'n gyfrifol am y bwyty, yn ogystal â gwahardd Mr Rahman rhag rheoli unrhyw sefydliadau bwyd yn y dyfodol.

Mae canfyddiadau'r swyddogion ym mwyty Swaddesh yn ein hatgoffa o bwysigrwydd rheolaethau hylendid bwyd a'r goblygiadau pan fydd busnesau'n gwneud camgymeriadau neu'n methu â chymryd cyfrifoldeb am eu hadeiladau. Bydd y cyngor, drwy ei Wasanaethau Rheoliadol a Rennir, yn defnyddio'r ystod lawn o ymyriadau hylendid bwyd wrth fynd i'r afael â busnesau bwyd sy'n perfformio'n wael a'r risg y maent yn ei beri i'r cyhoedd.

Chwilio A i Y