Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal academi tennis genedlaethol newydd
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022
Gallai Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddod yn gartref i ragoriaeth tennis yng Nghymru yn y dyfodol ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi ar gyfer academi tennis genedlaethol newydd sbon.
Mae Pwyllgor Rheoli Datblygu’r cyngor wedi cytuno i roi caniatâd cytuno ar gyfer y prosiect Canolfan Tennis Dan Do Gymunedol gwerth miliynau o bunnoedd, sy’n cynnwys naw cwrs tennis dan do a chwe chwrt tennis awyr agored, seddi a deciau gwylio cysylltiedig, pwll nofio a champfa, cyfleusterau llety, swyddfeydd ar gyfer Tennis Cymru a mwy.
Bydd y ganolfan newydd, a fydd yn cael ei thirlunio’n helaeth, yn cael ei hadeiladu ar safle ger Island Farm gyda llwybr mynediad newydd o’r Parc Gwyddoniaeth cyfagos a llwybr cysylltiedig ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Mae disgwyl iddo greu 75 o swyddi newydd yn ystod y cyfnod adeiladu, a 50 o swyddi llawn amser a rhan amser unwaith y bydd y ganolfan wedi’i chwblhau.
Pleidleisiodd yr aelodau yn unfrydol i roi caniatâd ynghyd â chytundeb Adran 106 yn gofyn i’r ymgeisydd gyfrannu arian tuag at welliannau cysylltiedig â chylchfan a chroesfannau i gerddwyr, ac uwchraddio cyfleusterau arosfannau bysiau sy’n gwasanaethu’r safle.
Y prosiect uchelgeisiol hwn o ansawdd uchel fydd y cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae ganddo’r potensial i wneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer datblygu sêr tennis y dyfodol.
Gyda chynlluniau cysylltiedig ar waith ar gyfer gwella'r rhwydwaith ffyrdd lleol ochr yn ochr â datblygiad strategol yr ardal, mae’r ganolfan ar fin dod yn dirnod rhanbarthol, a bydd yn cefnogi ein hymdrechion i ddenu buddsoddiad pellach i’r fwrdeistref sirol.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau:
Dywedodd llefarydd ar ran Tennis Cymru: “Mae’n destun cyffro i Tennis Cymru bod y prosiect wedi pasio’r garreg filltir bwysig hon.
“Bydd y ganolfan yn cefnogi datblygiad tennis ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac, yn ei dro, yng Nghymru hefyd - gan ddod â buddion am sawl cenhedlaeth i ddod.
“Mae cael mynediad i fwy o gyrtiau tennis dan do cymunedol i sicrhau chwarae drwy gydol y flwyddyn yn un o bileri canolog ein strategaeth “Tennis Opened Up across Wales.”
Dywedodd Nicholas Hegarty o ddatblygwyr HD Limited: “Rydym bellach un cam sylweddol yn nes at wireddu ein huchelgais i greu cyfleusterau tennis dan do gwych newydd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda'r Lawn Tennis Association a Tennis Cymru i sicrhau y cyflawnir hynny.”