Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Buddsoddiad pellach i ymgorffori'r Iaith Gymraeg ym mhroses gwneud penderfyniadau'r Cyngor

Ar ôl gohebiaeth ddiweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi manteisio ar y cyfle i fuddsoddi yn ei wasanaethau, er mwyn cynnwys ystyriaethau sy'n effeithio ar yr iaith Gymraeg fwy yn ei brosesau gwneud penderfyniadau. 

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn darparu ar gyfer nodi safonau ymddygiad mewn perthynas â'r Gymraeg. Mae'r Mesur yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i gyflwyno hysbysiad cydymffurfio sy'n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â safonau penodol fel y nodir yn y rheoliadau.

Canfuwyd bod y cyngor wedi methu â chydymffurfio ag adran 93 mewn perthynas ag ymgynghoriad diweddar gan y cyngor ar gynnig i symud adran babanod i safle Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig.

Mae'r cyngor wedi cyflwyno proses gryfach sy'n sicrhau bod Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg yn cael ei gynnal ar bob cynnig strategol allweddol cyn ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor neu'r Cyngor Llawn.

Mae'r canllawiau newydd, rhestr wirio ymgynghori ac Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg wedi’i ddiwygio ar gael i staff ac yn seiliedig ar enghreifftiau o arfer da sydd wedi'u cynnwys yn nogfen Comisiynydd y Gymraeg, Safonau Llunio Polisïau: Creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg a thrin y Gymraeg yr un mor ffafriol â'r Saesneg, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2020.

Chwilio A i Y