Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bargen Ddinesig i ddarparu cyllid ar gyfer datblygiad gwerth £3.5 miliwn ym Maesteg

Mae cyllid wedi cael ei gymeradwyo i drawsnewid cyn safle diwydiannol adfeiliedig ym Maesteg a’i wneud yn addas ar gyfer datblygiad aml-ddefnydd gan gynnwys cartrefi newydd, cyfleoedd manwerthu, unedau menter busnes a chyfleuster parcio a theithio rheilffordd.

Mae’r cyn-safle Budelpack COSi a Cooper Standard ar Ystad Ddiwydiannol Heol Ewenni, sydd wedi bod yn wag ers dros ddegawd, wedi cael dyfarniad y grant gan Brifddinas-ranbarth Caerdydd (CCR).

Bydd y grant yn mynd i’r afael â llawer o waith seilwaith mawr ac adfer, megis gwyro draen mwyngloddio hanesyddol ac ôl-lenwi llawer o siafftau pyllau glo, sydd yn hanfodol er mwyn paratoi’r safle ar gyfer y darpar ddatblygiad.  

Er bod y datblygiad wedi bod yn y broses gynllunio ers sawl blwyddyn, mae uwchgynllun y safle wedi cael ei ddiwygio i sicrhau y gall fodloni anghenion tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth leol. 

Gyda nifer y tai a gynllunnir ar gyfer y safle bellach wedi’i gynyddu i 205, bydd 15 y cant yn rhai tai fforddiadwy yn hytrach na chyfraniadau oddi ar y safle, fel y nodwyd mewn fersiynau blaenorol yr uwchgynllun.

Bydd cyfnewidfa drafnidiaeth newydd gan gynnwys cysylltiadau bysiau a chyfleuster parcio a theithio yn cael ei lleoli ar ben gorllewinol pellaf y safle er mwyn bod yn agos at orsaf drenau Heol Ewenni, a bydd hwb menter newydd arfaethedig hefyd yn cael ei adleoli er mwyn manteisio ar y cysylltiadau trafnidiaeth newydd.

Mae’r uwchgynllun hefyd wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys darpariaeth fanwerthu leol ar raddfa lai er mwyn osgoi effaith bosibl ar ganol tref Maesteg.

Gyda’r cyllid ar waith, bydd y cynllun diwygiedig yn amodol ar ymgynghoriad yn rhan o’r broses gynllunio cyn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor Rheoli Datblygu am benderfyniad terfynol.  

Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn i Faesteg a’r fwrdeistref sirol yn ei chyfanrwydd. Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â pherchnogion y safle, Pontardawe Coal and Metals Company Limited, ers sawl blwyddyn bellach i ddod â’r cyn-dir diwydiannol yn Heol Ewenni yn ôl i ddefnydd, ac rydym wedi gorfod goresgyn nifer o heriau sylweddol.

Mae’r ailddatblygiad arfaethedig wedi bod ar y gweill ers tro, ac rwy’n falch iawn fod y cyllid gwerth £3.5m gan Brifddinas-ranbarth Caerdydd wedi bod yn hanfodol o ran datgloi ei botensial.

Mae’r cynlluniau diwygiedig yn hynod eang, ac mae ganddynt y potensial i ddod â llawer iawn o fanteision i Gwm Llynfi.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio:

Chwilio A i Y