Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Baneri Gwyrdd wedi eu codi ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae wyth man gwyrdd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ennill Gwobr Y Faner Werdd uchel ei pharch gan Cadwch Gymru'n Daclus, gan gydnabod eu cyfleusterau rhagorol ar gyfer ymwelwyr, eu safonau amgylcheddol uchel, a’u hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd dda.

Eleni, bydd Amlosgfa Llangrallo yn codi ei Baner Werdd am y bedwaredd flwyddyn ar ddeg yn olynol, a Gorsaf Dân Cwm Ogwr yw'r Orsaf Dân ac Achub gyntaf yn y DU i ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.

Yn ogystal ag Amlosgfa Llangrallo, rhoddwyd statws ‘Gwobr Lawn’ i Warchodfa Natur Parc Slip, Parc Gwledig Bryngarw, a Pharc Lles Maesteg, sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor mewn partneriaeth â Chyfeillion Parc Lles Maesteg.

Yn y cyfamser, bu i Ardd Farchnad Caerau, Coetir Ysbryd y Llynfi, a Choed Tremaen ym Mracla, ymuno â Gorsaf Dân Cwm Ogwr drwy ennill ‘Gwobr Gymunedol’.

Mae’r Faner Werdd yn wobr a gydnabyddir yn genedlaethol a gyflwynir i fannau gwyrdd sy’n bodloni amcanion yn ymwneud ag ymrwymiad cymunedol amlwg, yn rheoli’r amgylchedd, bioamrywiaeth, tirwedd a threftadaeth, ac yn croesawu ymwelwyr.

Hoffwn longyfarch holl enillwyr gwobr y Faner Werdd a chydnabod ymdrechion pawb sydd wedi chwarae rhan mewn cynnal mannau gwyrdd ar draws y fwrdeistref sirol.

Rwy’n sylweddoli pwysigrwydd mannau gwyrdd i gymunedau lleol gan y gall unrhyw un eu mwynhau. Hoffwn hefyd argymell yn gryf bod ein preswylwyr yn gwneud y mwyaf o’r mannau arbennig hyn, gan ei bod yn amlwg eu bod yn gallu cael effaith gadarnhaol iawn ar eich iechyd corfforol a meddyliol.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:

Chwilio A i Y