Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arweinydd y Cyngor 'wedi synnu'n llwyr' o dderbyn anrhydedd OBE

Mae'r Cynghorydd Huw David, a ddychwelodd i'w rôl fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, wedi'i anrhydeddu â dyfarniad Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE).

Cyhoeddwyd ychydig cyn dathliadau Jiwbilî Platinwm 2022, bod y Cynghorydd David wedi ei enwebu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gydnabod ei arweinyddiaeth gref yn ystod y pandemig Covid-19, nid yn unig ar gyfer yr awdurdod lleol, ond fel Llefarydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd y Cynghorydd Huw David: "Mae'n deimlad gwylaidd ond anhygoel cael fy nghydnabod gydag OBE gan ei Mawrhydi'r Frenhines ar ôl cael fy enwebu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

"Cefais fy synnu'n llwyr gan y cyhoeddiad, mae'n fraint fawr ac rwy'n hynod ddiolchgar.

"Rydym wedi profi un o'r cyfnodau mwyaf heriol ein hoes dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a hoffwn gydnabod ymroddiad anhygoel pawb sydd wedi gweithio drwy gydol y pandemig er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n gallu parhau a bod pobl fregus wedi cael cymorth a gofal hanfodol.

"Mae ymdrechion o'r fath yn parhau i fod yn allweddol i'n llwyddiant wrth i ni gyd-dynnu fel yn yng Nghymru i fynd i'r afael â'r pandemig byd-eang, ac rwyf wir yn eich edmygu ac yn ddiolchgar tu hwnt ohonoch chi.

"Hoffwn hefyd gydnabod gwaith caled fy nghydweithwyr yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a diolch iddynt am eu hymrwymiad parhaus. Mae hyn yn rhywbeth rwyf wir am ei drysori, felly diolch i chi gyd."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae Huw David yn gwbl angerddol dros wella gwasanaethau lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae wedi gweithio'n ddi-baid drwy gydol y pandemig i gefnogi ei gymunedau lleol. Mae'r OBE hwn yn cydnabod yr ymdrech mae'n ei roi i'w waith bob dydd."

Dywedodd Chris Llywelyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, hoffem longyfarch y Cynghorydd Huw David ar gael ei gydnabod ar Restr Anrhydeddau'r Jiwbilî Platinwm.

"Yn ei rolau fel Llefarydd Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd a Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae Huw wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad arbennig i wasanaeth cyhoeddus, ac i gyflwyno'r canlyniadau gorau posib i'r unigolion hynny mae'n eu cynrychioli ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chymunedau ehangach ledled Cymru.

"Mae Huw wedi dangos egni ac ymagwedd wych at waith dan yr amgylchiadau mwyaf heriol ac mae wedi bod yn ganolog i ymateb Cymru gyfan i argyfwng Covid-19.

"Ar ran y teulu llywodraeth leol yng Nghymru, rydym ar ben ein digon bod Huw wedi cael y gydnabyddiaeth hon sy’n gwbl haeddiannol."

Chwilio A i Y