Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi’r gorau i’w swydd

Ar ôl wyth mlynedd wrth y llyw gyda’r awdurdod lleol, mae'r Cynghorydd Huw David wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau iddi fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y Cynghorydd David yn parhau yn y swydd hyd nes y bydd arweinydd newydd wedi ei ethol fel rhan o gyfarfod blynyddol y Cyngor, sy’n cael ei gynnal ddydd Mercher 15 Mai 2024.

Bydd hefyd yn rhoi’r gorau i’w ddyletswyddau cenedlaethol fel llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a llefarydd swyddogol dros ofal cymdeithasol.

Ar yr un pryd, bydd y Cynghorydd David yn parhau i weithio fel un o’r tri aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cynrychioli ward Pîl, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr.

Daeth y Cynghorydd David yn aelod lleol cymuned Cefn Cribwr ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2004 ac yntau wedi byw yno gydol ei fywyd. Gweithiodd fel aelod o’r meinciau cefn cyn iddo gel ei ail ethol yn 2008, a chafodd ei ddewis fel Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau.

Yn 2012 newidiodd ei bortffolio, gan gymryd y swydd fel Aelod o’r Cabinet dros Blant, ac yn 2015 penodwyd ef yn Ddirprwy Arweinydd yr awdurdod. Yn 39 oed, daeth yn un o arweinyddion cyngor ieuengaf yng Nghymru pan gafodd ei ethol i’r swydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2016.

Dywedodd y Cynghorydd David:

“Bu’n anrhydedd gwasanaethu’r cymunedau sy’n bwysig i mi fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy’n dal i fod yn hynod frwdfrydig ynghylch y rhan bwysig mae cynghorau lleol yn ei chwarae yn ein bywyd bob dydd, ond rwyf wedi rhoi’r cyfan allaf i’r swydd hon, ac mae’r amser bellach wedi dod i mi gamu o’r neilltu a gadael i rywun arall ddod ag egni a phersbectif newydd i’r swydd.

“Rwyf wedi penderfynu cyhoeddi fy mwriad i roi’r gorau iddi fel Arweinydd nawr fel bod modd i gydweithwyr gynllunio’r camau nesaf, ac ystyried pwy maent ei eisiau i arwain yr awdurdod drwy ba bynnag heriau all godi yn y dyfodol. Byddaf yn cynnig cefnogaeth lawn i bwy bynnag fydd yn cael ei ethol fel Arweinydd.

“Pan ddechreuais y swydd hon, roeddem eisoes yn y mesurau cyni cenedlaethol a osodwyd gan Lywodraeth y DU ers sawl blwyddyn, ac roeddem yn edrych i weld sut oedd modd parhau i ddarparu mwy na 800 math o wasanaeth gan y cyngor a hynny gyda llai a llai o adnoddau.

“Mae cymaint wedi digwydd yn yr wyth mlynedd ers hynny. Y rhan anoddaf oedd arwain yr awdurdod drwy bandemig byd eang Covid-19, ond rydym hefyd wedi wynebu digwyddiadau hynod arwyddocaol eraill y mae eu heffaith yn parhau - effeithiau Brexit, colli cyflogwyr arwyddocaol megis Bridgend Ford, yr argyfwng costau byw parhaus a mwy.

“Mae dweud fy mod yn hynod falch o’r ffaith nad yw’r cyngor erioed wedi troi cefn ar ei gyfrifoldebau ac wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, yn enwedig yn ystod y pandemig, yn ddweud cynnil. Credaf yn gryf fod awdurdodau lleol yn ffurfio rhan hanfodol o gymdeithas wâr, ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl leol.

“Hoffwn dalu teyrnged i sgiliau, gwybodaeth a gwytnwch fy nghyd aelodau a fy nghydweithwyr yn y cabinet, ac am gymorth llawn uwch dîm rheoli profiadol y cyngor. Hoffwn gydnabod cyfraniad mawr yr holl staff sy’n ffurfio craidd yr awdurdod hefyd, a sicrhaodd ein bod wedi gallu bodloni pob her newydd a ddaeth i’n rhan yn uniongyrchol, gyda’n gilydd.

“Fel Arweinydd, mae wedi bod yn fraint cynrychioli ac eirioli er budd holl gymunedau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, man rwy’n falch iawn o’i alw’n gartref. Gallaf sicrhau trigolion lleol y byddaf yn parhau i’w cynrychioli, a hyrwyddo buddiannau ein holl gymunedau."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford, wrth wneud sylw am benderfyniad y Cynghorydd David:

“Rwy’n adnabod Huw ers blynyddoedd, ac mae ei ymrwymiad i bobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn amlwg bob amser.

“Mae ei waith ar lwyfan Cymru gyfan yn uchel iawn ei barch ac yn adlewyrchu ei gynhesrwydd, ei allu i weithio gyda phobl ar draws ffiniau daearyddol a gwleidyddol, a’r brwdfrydedd mae’n ei ddangos dros wella bywydau’r rhai sydd angen cymorth fwyaf.

“Drwy’r pandemig a’r argyfwng costau byw yn fwy diweddar, mae wedi gweithio’n ddiwyd i amddiffyn cymunedau rhag effaith y rhain a hynny ar adegau anodd iawn. Rwy'n dymuno'r gorau i Huw ar gyfer y dyfodol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Mae’r Cynghorydd Huw David wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith llywodraeth leol dros sawl blwyddyn ac mae’n uchel ei barch ymhlith ei gyfoedion ledled Cymru, yn ogystal â nifer o gyrff partner.

“Fel llefarydd dros iechyd a gofal cymdeithasol, mae Huw wedi dangos ei frwdfrydedd dros ddiogelu pobl fregus yn gyson a sicrhau’r hawl i ofal i’r rhain sydd ei angen fwyaf. Roedd hyn yn fwy amlwg nag erioed yn ystod pandemig Covid, wrth i Huw gymryd pob cyfle o greu achos ar gyfer gwasanaethau lleol a llesiant gweithwyr gofal.

“Mae dull hoffus dengar Huw wedi bod yn nodwedd allweddol yn ystod ei gyfnod fel Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sydd wedi ennill ymddiriedaeth cydweithwyr o bob rhan o Gymru a ledled y DU. Drwy gydol y cyfnod, mae wedi dangos gwir arweinyddiaeth ac ymrwymiad yn hyrwyddo llywodraeth leol. Mae ei waith diflino dros wasanaethau lleol ar lefel genedlaethol yn cyd-fynd â’i gyfraniad gwych i gymuned Pen-y-bont ar Ogwr a’i falchder ohoni.

“Er gwaethaf y newyddion heddiw, rwy’n hyderus y bydd y Cynghorydd David yn parhau â’i waith diflino yn ei gymuned.

“Ar ran arweinwyr ledled Cymru a staff Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Huw am ei gyfraniad i lywodraeth leol dros sawl blwyddyn, ac fel cyfaill a chydweithiwr, dymunaf y gorau oll iddo yn y dyfodol.”

Bydd Arweinydd newydd yn cael ei ethol yng nghyfarfod blynyddol y cyngor ddydd Mercher 15 Mai 2024.

Chwilio A i Y