Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arolygiaeth Gofal Cymru yn tynnu sylw at welliannau yng Ngwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant y cyngor

Ar ôl gwiriad gwelliant gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Tachwedd 2022, nodwyd bod Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud gwelliannau ledled y bwrdd ers y Gwerthusiad Perfformiad ym mis Mai 2022.

Er y cafwyd gwelliannau amlwg, mae angen i Wasanaethau Plant yr awdurdod wella o hyd.  Mae meysydd ffocws yn cynnwys: pobl – llais a rheolaeth, llesiant, partneriaeth ac integreiddio ac atal.

Mae’r awdurdod yn parhau i brofi lefel uchel o alw ar gyfer Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant, gydag anghenion yn mynd yn gynyddol gymhleth.

Oherwydd hynny, mae adborth cadarnhaol bod Gwasanaethau Plant yr awdurdod yn profi gwelliant amlwg yn galonogol, ac rydym yn ymdrechu i barhau â'r cynnydd.

Rydym wedi diweddaru ein cynllun gweithredu yn ôl canfyddiadau’r adroddiad AGC, a byddwn yn mabwysiadu dull un cyngor i gefnogi Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant er mwyn parhau i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd.

Rydym yn croesawu gwaith AGC o fonitro perfformiad a chynnydd yr awdurdod yn agos, gan ein bod yn rhannu’r un nod - cynnig gwasanaeth gwell a fydd yn diogelu a gwella llesiant plant a theuluoedd sydd mewn perygl o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Chwilio A i Y