Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arian Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i gynlluniau teithio llesol lleol

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael £1.5m i hwyluso llwybrau teithio llesol newydd a gwell ledled y fwrdeistref sirol. Bydd y gwelliannau’n cynnwys adeiladu llwybrau teithio llesol newydd, gwaith ymgynghori ar gyfer datblygu’r cynllun yn y dyfodol, a gwaith hyrwyddo.

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £58m mewn llwybrau teithio llesol ledled Cymru, mewn ymgais i annog pobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy ar gyfer teithiau byr, megis cerdded neu feicio.

Yn ôl y Dirprwy Weinidog, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth: “Mae cerdded a beicio’n cynnig ymateb ymarferol a hanfodol i helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau amgylcheddol a’i thargedau iechyd.

Mae’r Ddeddf Teithio Llesol yn rhoi pwysau arnom i ddarparu rhwydweithiau teithiol llesol o’r radd flaenaf – rhwydweithiau a fydd yn annog mwy a mwy o bobl i gerdded a beicio’n rheolaidd yn hytrach na defnyddio’r car.”

Ers 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r arian ar gyfer teithio llesol o £15m i £70m ledled Cymru. Mae’r buddsoddiad hwn yn galluogi awdurdodau lleol, yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i weithredu’r newidiadau angenrheidiol ar ein ffyrdd er mwyn hwyluso teithio llesol.

Mae cyllid blaenorol Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol wedi galluogi’r fwrdeistref sirol i elwa ar uwchraddio teithio llesol, yn cynnwys lledu troedffyrdd ar hyd rhannau o’r A48 a’r A473 at ddibenion cyfleusterau cyd-ddefnyddio, clirio llystyfiant, gwella arwyddion traffig a goleuadau stryd, a mwy.

Rydym yn croesawu’r £1.5m ychwanegol er mwyn inni allu parhau i fuddsoddi mewn llwybrau teithio llesol ledled y fwrdeistref sirol. Bydd y dyraniad mwyaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llwybr teithio llesol newydd rhwng Ynysawdre a Bryncethin – trwy annog pobl i wneud rhagor o deithiau corfforol egnïol, bydd modd cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol y trigolion, a hefyd ar yr amgylchedd.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y