Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Anogir disgyblion i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Atgoffir disgyblion chweched dosbarth a choleg bod cefnogaeth gynyddol bellach ar gael gan gynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) Cyllid Myfyrwyr Cymru. 

Gan gychwyn y mis yma, bydd taliadau wythnosol yn cynyddu o £30 i £40. 

Mae’r grant wythnosol hwn, sy’n cael ei dalu pob pythefnos, wedi’i ddylunio er mwyn cefnogi pobl ifanc 16-18 oed o gefndiroedd difreintiedig gyda chostau addysg uwch, er enghraifft costau teithio.

Gall ddisgyblion fod yn gymwys am Lwfans Cynhaliaeth Addysg os ydynt:

  • o oedran ysgol orfodol;
  • yn 16, 17 neu 18 oed cyn neu ar 31 Awst;
  • yn byw fel arfer yng Nghymru; neu
  • yn astudio cwrs academaidd neu alwedigaethol cymwys yn llawn-amser.

Mae cymhwyso ar gyfer y grant hefyd yn ddibynnol ar brawf modd, ac mae’r meini prawf cymhwyso llawn ar gael drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Byddwn yn ymrwymo’r arian ychwanegol yma am y ddwy flynedd academaidd nesaf, tra cynhelir adolygiad cynhwysfawr o’r cynllun. 

Hoffwn annog yr holl ddisgyblion chweched dosbarth a choleg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y cymorth angenrheidiol hwn.

Mae’n bwysig nad yw sylw dysgwyr yn cael ei dynnu gan boenau ariannol fel poeni am fforddio cinio neu fforddio costau teithio, er enghraifft.

Rwy’n croesawu’r cynnydd mewn taliadau ac yn gobeithio y bydd yn lleihau’r rhwystrau a achoswyd gan yr argyfwng costau byw.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles: “Rydym wedi parhau i amddiffyn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yng Nghymru a bydd y taliad uwch yn helpu disgyblion gyda chostau dysgu.

“Gwerthfawrogwn nad yw’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg wedi cynyddu ers peth amser, a deallwn fod pobl ifanc hefyd o dan straen ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. Wrth i ni fynd ati i gynnal adolygiad annibynnol o’r cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd y cynnydd mewn taliadau yn ein cynorthwyo i gael gwared ar rwystrau addysgiadol.”

Chwilio A i Y