Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Annog pobl i ddweud eu dweud ar Gynlluniau 'creu lleoedd’ canol tref Maesteg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus newydd mewn perthynas â’i gynigion ar gyfer adfywio canol tref Maesteg.

Gyda chymorth ‘Rhaglen Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru, ac ar y cyd ag ymgynghorwyr datblygu Mott MacDonald, mae'r cyngor yn gweithio ar ‘Gynllun Creu Lleoedd' ar gyfer canol tref Maesteg, gyda’r nod o greu gwelliannau yn y dyfodol a fydd yn cynnig buddion i bawb sy’n gweithio a byw ym Maesteg, yn ogystal ag ymwelwyr.

Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn adlewyrchu blaenoriaethau pawb ar gyfer dyfodol canol tref Maesteg yn gywir, mae’r cyngor yn annog pobl i rannu eu barn drwy gwblhau holiadur ar-lein neu drwy fynychu sesiynau galw heibio arfaethedig. Bydd y tîm sy’n llunio’r cynllun creu lleoedd yn ystyried yr holl sylwadau a safbwyntiau sy’n dod i’r amlwg yn ystod y broses ymgynghori.

Bydd y sesiynau galw heibio’n cael eu cynnal yn Llyfrgell Maesteg, Norths Lane, Maesteg, CF34 9AA ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Gwener 22 Medi 2023 – 2pm i 5pm
  • Dydd Sadwrn 23 Medi 2023 – 10am i 1pm

Dyddiad cau'r ymgynghoriad yw dydd Iau 5 Hydref 2023.

Ein nod ar gyfer cynllun creu lleoedd canol tref Maesteg yw creu gweledigaeth gyffredin a chyffrous ar gyfer y dref er mwyn annog buddsoddiad mewnol wrth gynnal treftadaeth anhygoel y dref hanesyddol. Rydym yn gobeithio annog ac arwain ystod o brosiectau adfywio cyffrous o gwmpas canol y dref er mwyn sicrhau ei fod yn gynaliadwy, yn fywiog a’n ddeniadol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae eich barn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan ganol tref Maesteg gynllun cadarn ar waith er mwyn cyflawni ei llawn botensial fel economi ar gyfer y dyfodol, sy’n cwmpasu llesiant cymunedol a chynaliadwyedd wrth adlewyrchu ei hanes unigryw a balch.

Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle i gwblhau’r arolwg ar-lein, neu fel arall, galwch draw i’r llyfrgell leol er mwyn rhannu eich barn. Gyda'n gilydd, gallwn greu rhywbeth arbennig.

Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

Chwilio A i Y