Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Amserlen newydd ar gyfer gwaith ar gyrtiau tennis ym Mharc Griffin

Mae’r gwaith i sefydlu dau gwrt tennis newydd ym Mharc Griffin ym Mhorthcawl wedi cael ei oedi am gyfnod byr tra bod pwynt mynediad ffurfiol i gontractwyr i'r safle yn cael ei sefydlu.

Mae angen y pwynt mynediad, a fydd yn cynnwys palmentydd is newydd, fel y gall contractwyr symud peiriannau ac offer trwm yn ddiogel ar y safle ac oddi arno, gan achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl ar gyfer trigolion a busnesau lleol.

Wedi’u dylunio i ddarparu mynediad i gyfleusterau tennis modern i gymunedau lleol ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon fel ffordd o wella eu hiechyd a’u llesiant, mae’r cyrtiau newydd ym Mharc Griffin yn nodi cyfnod olaf prosiect sydd werth cyfanswm o £520,000.

Maent yn dilyn cyfleusterau tebyg sydd eisoes wedi cael eu darparu mewn mannau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan gynnwys Parc Llesiant Maesteg, Heol-Y-Cyw a Pharc Caedu ym Mro Ogwr.

Bydd y cyrtiau tennis newydd yn cael eu hadeiladu ar y cyn gae bowlio ger Canolfan Gymunedol Parc Griffin i sicrhau na fyddant yn cael eu heffeithio gan gynigion adfywio eraill sy’n awyddus i ddyblu maint y parc ac ailddatblygu llawer o'r ardal gyfagos, gan gynnwys y cyrtiau tennis cyfredol, y disgwylir iddynt gael eu digomisiynu.

Unwaith y byddant wedi’u hadeiladu, bydd y cyrtiau newydd yn cynnwys arwyneb, rhwydi a ffensys newydd sbon, systemau giatiau a mynediad gwell, a chyrtiau wedi’u paentio’n ffres. Maent yn cael eu sefydlu fel rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Tref Porthcawl a’r Lawn Tennis Association.

Tra bydd sefydlu pwynt mynediad ffurfiol yn achosi cyfnod byr o oedi cyn dechrau’r gwaith, bydd hefyd yn profi i fod yn fwy cyfleus o lawer ac yn helpu i leihau amhariadau yn ystod y gwaith o adeiladu'r cyrtiau tennis newydd.

Mae amserlen newydd yn cael ei chadarnhau ar gyfer y prosiect ar hyn o bryd, sy’n buddsoddi mwy na £191,000 i’r gwaith Parc Griffin i sicrhau y gall cymuned Porthcawl barhau i fwynhau ac elwa o gyfleusterau tennis modern.

Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Porthcawl a’r Lawn Tennis Association am eu cefnogaeth wrth ddarparu’r cyfleusterau newydd hyn ar gyfer yr ardal.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y