Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ailddatblygiad Neuadd y Dref Maesteg yn cyrraedd cam tyngedfennol

Hysbysir preswylwyr ac ymwelwyr â Maesteg o anghyfleustra posib wrth i’r ailddatblygiad £8m yn neuadd hanesyddol y dref gyrraedd cam tyngedfennol.

Bydd prysurdeb mawr ar y safle yn Stryd Talbot yn ystod y pedair wythnos nesaf wrth i goncrid rhag-gastiedig a fframiau dur gael eu danfon a’u hadeiladu fel rhan o’r prosiect.

Bydd craen ar y safle hefyd rhwng neuadd y dref a swyddfeydd Cyngor y Dref i hwyluso’r gwaith am y pedair wythnos.

Bydd y contractwyr Knox and Wells yn sicrhau y bydd cyn lleied o aflonyddwch â phosib wrth fynd i’r afael â’r gwaith danfon ac adeiladu sydd wedi ei gynllunio’n ofalus gyda’u his-gontractwyr.

Serch hynny, oherwydd mynediad cyfyng y safle a chyfyngiadau yn yr ardal gyfagos, bydd peth aflonyddwch yn anochel.

Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

Yn ystod y gwaith o ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei adfer i'w hen ogoniant a bydd estyniad ar un ochr gydag atriwm gwydr newydd, theatr stiwdio a sinema, caffi a bar mesanîn, a llyfrgell fodern.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a nifer o gyllidwyr allweddol ar y prosiect, sy'n un o'r buddsoddiadau mwyaf ym Maesteg ers degawdau.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan yr awdurdod lleol, cyllid adfywio Llywodraeth Cymru a Thrawsnewid Creu Lleoedd Trefi, Tasglu'r Cymoedd, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Tref Maesteg, y Sefydliad Garfield Weston a'r Ymddiriedolaeth Davies.

Gallwch ddilyn cynnydd yr ailddatblygiad ar wefan Neuadd y Dref Maesteg neu ar eu tudalen Facebook.

Chwilio A i Y